
Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2024
Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2024 yn dathlu llwyddiannau rhyfeddol myfyrwyr a gymerodd ran ym Mhrosiect Chweched Dosbarth EESW yn gweithio gyda Diwydiant a Phrifysgolion Cymru, yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Enillydd gwobr myfyriwr y flwyddyn EESW yw Chloe Radford o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern gyda’r ail orau Carys Williams o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern a Morgan Bleasdale o Ysgol Kings Monkton.
Cyhoeddwyd y gwobrau yng Nghinio Rhwydweithio Blynyddol Fforwm Modurol Cymru, i ddathlu ei ben-blwydd yn 25 oed, yn y Vale Resort, Hensol ar 5 Rhagfyr Tachwedd 2024.
Yn dilyn y cyhoeddiad cafodd y tri myfyriwr syrpreis arall pan gawsant eu gwahodd , gan reolwyr Aston Martin Lagonda, i daith VIP o amgylch eu Canolfan Cynhyrchu a Thechnoleg yn Sain Tathan.
Digwyddodd y profiad ar ddydd Iau 16 Ionawr 2025 , lle cafodd y myfyrwyr, gwesteion gwadd a staff EESW, daith drwy broses gynhyrchu’r cerbydau AML a weithgynhyrchwyd ar y safle yn Sain Tathan.
Roedd y daith a gynhaliwyd yn cynnwys cyflwyniadau ardderchog gan amrywiol staff AML o bob un o'r camau cynhyrchu, yr holl ffordd drwodd i weld y cerbydau gorffenedig yn barod i'w hanfon at gwsmeriaid.
Yr eisin ar y gacen am y diwrnod oedd pan wahoddwyd y myfyrwyr a'r gwesteion i fod yn deithwyr mewn ceir ar y trac prawf, gyda gyrwyr AML yn arddangos galluoedd y cerbydau, profiad gwefreiddiol i bawb!!
Mae EESW yn hynod ddiolchgar i Aston Martin Lagonda am ddarparu’r profiad VIP hwn i’r myfyrwyr, gan eu hysbrydoli, a dathlu eu llwyddiant yng ngwobrau Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2024.