Cyflwyniad 2 Prosiect Peirianneg a Gweithgynhyrchu (I2EM)

Gweithdai i2E wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer Ysgolion Uwchradd yng Ngheredigion a Chonwy sy’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 gan gynnwys ein Her Cyflymder EESW, gweithdy BBC micro:bit, gweithdy Tyrbinau Gwynt a gweithdy Spheros newydd.  

Os hoffech archebu sesiwn neu ddarganfod mwy, cysylltwch â ni

Lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth am brosiectau ar gyfer I2EM Ceredigion, I2EM Conwy ac I2EM Wrecsam

ARIENNIR Y PROSIECT GAN LYWODRAETH Y DU YN SGIL YR AGENDA FFYNIANT BRO

Ffermio Cynaliadwy i Ysgolion Cynradd

Mae'r prosiect Ffermio Cynaliadwy yn gwahodd disgyblion i weithio gyda'i gilydd i dyfu bwyd mewn tŷ gwydr digidol y maent wedi'i adeiladu a'i godio. Gyda ffocws ar gynaliadwyedd mae disgyblion Cam Cynnydd 3 (CC3) yn cael eu cyflwyno i'r mudiad ffermio trefol sy'n dod â chnydau i'n trefi a'n dinasoedd, gan ailddefnyddio lleoliadau trefol nad ydynt yn cael defnydd digonol, lleihau milltiroedd bwyd a chysylltu pobl â'r bwyd y maent yn ei fwyta yn eu cymunedau. 

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer ysgolion cynradd. 

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. 

Ffermio Cynaliadwy ar gyfer Ysgolion Uwchradd

Mae'r prosiect Ffermio Cynaliadwy yn gwahodd disgyblion i weithio gyda'i gilydd i dyfu bwyd mewn tŷ gwydr digidol y maent wedi'i adeiladu a'i godio.

Yn CC4 mae'r prosiect wedi'i wreiddio mewn dealltwriaeth o effaith modelau cynhyrchu bwyd traddodiadol a newid hinsawdd ar fioamrywiaeth ac mae'n archwilio ffermio trefol a ffermio mewn amgylchedd rheoledig fel dewisiadau amgen gyda manteision ar gyfer diogeledd bwyd a chynaliadwyedd yn ehangach.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Sefydliad Spectris.  

Cynghrair First Lego

Mae EESW yn cyflwyno tair her ranbarthol yn y Gynghrair First Lego bob blwyddyn yng Ngogledd, De-ddwyrain a De-orllewin Cymru, ar ran IET. 

Mae'r gweithgaredd yn agored i ysgolion cynradd ac uwchradd, ac mae tri chategori oedran gwahanol.  

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan yr IET a'r Sefydliad Spectris.    

Gweithdai Tyrbinau Gwynt - Rhanbarth Pen Y Cymoedd

Mae EESW yn falch o gynnig ein Gweithdy Tyrbinau Gwynt ar gyfer hyd at 30 disgybl y sesiwn i ysgolion cynradd ac uwchradd cymwys sydd wedi'u lleoli yn ardaloedd Rhondda, Cynon, Castell-nedd ac Afan.   

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy i'w gyflwyno yn eich ysgol o fis Ionawr 2024, cysylltwch â ni i archebu.  

Gweithdai Tyrbinau Gwynt - Rhanbarth De Cymru

Mae EESW yn falch o gynnig nifer cyfyngedig o Weithdy Tyrbinau Gwynt ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion y sesiwn i ysgolion cynradd ac uwchradd cymwys yn Ne Cymru a ariennir gan gronfa Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol.

Os yw eich ysgol yn gymwys a byddai gennych ddiddordeb mewn bwcio gweithdy i'w gyflwyno yn eich ysgol cyn diwedd tymor yr haf 2024, cysylltwch â ni i archebu.

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.