Rowndiau Terfynol Rhanbarthol Tymor Campwaith Cynghrair Lego First 2023-24 yn Dathlu Llwyddiant
Wrth arddangos arloesedd a chreadigrwydd, mae rowndiau terfynol rhanbarthol Tymor Campwaith Cynghrair Lego First wedi coroni ein tri phencampwr rhanbarthol.
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Ysgol Gynradd St Julian, Casnewydd, Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam wrth iddynt ddechrau ar eu paratoadau ar gyfer y Rownd Derfynol Genedlaethol yn ddiweddarach y mis hwn!
Daeth timau o bob rhan o ranbarthau De-ddwyrain Cymru, De-orllewin Cymru a Gogledd Cymru at ei gilydd ar 6 Mawrth yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd, ar 8 Mawrth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ac 13 Mawrth yn Venue Cymru, Llandudno yn eu tro i arddangos eu doniau peirianneg, sgiliau datrys problemau, ac ysbryd cydweithredol.
Roedd y Tymor Campwaith, y fersiwn ddiweddaraf o Her y Gynghrair Lego First, yn gofyn i’r timau a oedd yn cymryd rhan i ddylunio ac adeiladu robotiaid Lego ymreolaethol i lywio teithiau cymhleth ar gae chwarae â thema. Roedd thema eleni, sy'n canolbwyntio ar ddathlu celf a'i effaith ar gymdeithas, yn ysbrydoli cyfranogwyr i archwilio’r cysylltiad rhwng technoleg, creadigrwydd, ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.
Trwy gydol y gystadleuaeth, cyflwynodd timau eu robotiaid crefftus, a raglennwyd ganddynt gan ddefnyddio platfform LEGO Spike Prime neu Mindstorm EV3, i gwblhau cyfres o heriau sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau perfformio, cynhyrchu cyfryngau, ac ymgysylltu â'r gynulleidfa. Roedd perfformiad pob robot yn dyst i fisoedd o waith caled, arbrofi ac ymroddiad gan yr arloeswyr ifanc.
Fodd bynnag, nid yw Her Cynghrair Lego First yn ymwneud â roboteg yn unig. Mae timau wedi ymchwilio i brosiectau ymchwil hefyd sy'n mynd i'r afael â materion yn y byd go iawn ym maes celf, chwaraeon, hobïau a diwylliant. O ddatblygu atebion arloesol i gynyddu ymgysylltiad â hanes lleol i greu rhaglenni addysgol sy'n hyrwyddo cynwysoldeb a mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon, roedd dyfnder y creadigrwydd a arddangoswyd gan y cyfranogwyr yn wirioneddol ryfeddol.
Wrth i'r gystadleuaeth ddatblygu, gwnaeth hyfedredd technegol y robotiaid argraff ar y beirniaid ynghyd â gallu’r timau i fynegi eu prosesau dylunio, strategaethau datrys problemau, ac effaith gymdeithasol eu prosiectau. Roedd cydweithio, meddwl yn feirniadol a chyfathrebu effeithiol yn feini prawf sgorio allweddol.
Ar ôl rowndiau dwys o gystadlu, dewisodd y beirniaid y pencampwyr rhanbarthol a chydnabod timau eraill am eu cyflawniadau rhagorol mewn gwahanol gategorïau megis Dylunio Robot, Prosiect Arloesedd, Gwerthoedd Craidd, a Pherfformiad Robot. Fodd bynnag, roedd pob cyfranogwr yn enillydd, ar ôl ennill profiad amhrisiadwy, meithrin cyfeillgarwch parhaol, a meithrin angerdd am ddisgyblaethau STEAM.
Mae llwyddiant y rowndiau terfynol rhanbarthol yn dyst i ymroddiad diwyro cyfranogwyr, mentoriaid, gwirfoddolwyr o Sefydliad Spectris, KLA, Vale, Veeqo, ISG a’r Bathdy Brenhinol a gefnogodd y digwyddiad. Diolch hefyd i'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg am eu cyllid partneriaeth parhaus. Mae eu hymdrechion ar y cyd nid yn unig wedi dyrchafu Tymor Campwaith Her Cynghrair First Lego ond maent hefyd wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o arloeswyr i harneisio pŵer technoleg ar gyfer newid cadarnhaol.
Canlyniadau llawn:
Gwobr |
De-ddwyrain Cymru |
De-orllewin Cymru |
Gogledd Cymru |
Pencampwyr |
Ysgol Gynradd St Julian, Casnewydd |
Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman |
Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam |
Dylunio Robot |
Ysgol Gynradd Llys Malpas, Casnewydd |
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr, Glynebwy |
Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon |
Gwerthoedd Craidd |
Ysgol Gynradd Ynys y Barri, Y Barri |
Ysgol Gynradd Oak Field, Y Barri |
Ysgol Emmanuel, Y Rhyl |
Prosiect Arloesedd |
Ysgol Uwchradd Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Caerdydd a Caldicoders Tîm 2, Ysgol Cil-y-coed, Cil-y-coed |
Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr |
Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam |
Perfformiad Robot |
Caldicoders Tîm 1, Ysgol Cil-y-coed, Cil-y-coed |
Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman |
Ysgol Rhuthun, Rhuthun |
Sêr Newydd |
Ysgol Uwchradd Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Caerdydd |
Bloc Busters, Grŵp Addysg Cartref, Swindon |
Ysgol Gyfun Amlwch, Amlwch |
Torri Trwodd |
Ysgol Gynradd Glyncoed, Caerdydd |
EYST Abertawe |
Ysgol Uwchradd Dinbych, Dinbych |
Ysgogi |
Ysgol Glan Morfa, Caerdydd |
Ysgol Bro Preseli, Crymych |
Ysgol Gynradd Gatholig Bendigaid William Davies, Llandudno |