O Gylchedau i Gartrefi Clyfar: Lansio Heriau i Fyfyrwyr yn Ne Ddwyrain Cymru
31 Rhag 2024

O Gylchedau i Gartrefi Clyfar: Lansio Heriau i Fyfyrwyr yn Ne Ddwyrain Cymru

Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru wedi datblygu prosiect i gyflwyno gweithgareddau electroneg rhyngweithiol mewn ysgolion ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda phartneriaid ariannu CSconnected.

Pwrpas y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o'r diwydiant lled-ddargludyddion a'r cyfleoedd gyrfa dilynol y bydd myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn eu cael ynddo.

Mewn sesiynau Chwilotwyr Cylchedau ysgolion cynradd, bydd disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o rôl lled-ddargludyddion mewn bywyd modern a phrosiectau dylunio a fydd yn gwella bywydau eraill wrth ddefnyddio cydrannau lled-ddargludyddion.  Hyd yn hyn yn y prosiect, mae dosbarthiadau ym Mlwyddyn 5 a 6 wedi bod yn gyffrous yn darganfod cysyniadau electronig sylfaenol trwy ymchwilio i ddeunyddiau dargludo ac insiwleiddio, gweithio gyda chydrannau, newid polaredd a throi llafnau yn hofrenyddion!

Mae disgyblion ysgolion uwchradd yn cael eu herio i archwilio Rhyngrwyd Pethau a sut y gall y rhain wella cynaliadwyedd, effeithlonrwydd a chysur yn ein prosiect Cartrefi Clyfar newydd.  Mae disgyblion yn cydosod system o synwyryddion ac actiwadyddion, ac yn eu rhaglennu gan ddefnyddio micro:bit i ddangos cymwysiadau byd go iawn megis awyru wedi’i reoli gan dymheredd, goleuo gweithredol neu gynaeafu dŵr glaw. 

Dywedodd Brandon Jones, Rheolwr Sgiliau CSconnected:

“Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gydag EESW, gyda chefnogaeth cyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, i ddod â’r prosiect anhygoel hwn yn fyw.  Mae De Cymru yn gartref i glwstwr lled-ddargludyddion sy’n arwain y byd, gan greu cyfleoedd gwirioneddol i adeiladu gyrfaoedd cyffrous yma.  Gyda’r prosiect hwn, rydyn ni’n helpu pobl ifanc yn y rhanbarth i ddarganfod byd hynod ddiddorol lled-ddargludyddion cyfansawdd a sut maen nhw’n pweru’r dechnoleg o’n cwmpas ni. Gobeithiwn y bydd hyn yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddyfeiswyr, peirianwyr, a datryswyr problemau i freuddwydio’n fawr a gweld sut y gallant lunio dyfodol technoleg!”

Mae EESW eisoes wedi cyflwyno’r prosiect mewn 9 ysgol gynradd yn nhymor yr Hydref 2024.  Mae wedi cael derbyniad anhygoel o dda ac mae'r myfyrwyr wedi bod yn ymgysylltu'n llwyr trwy gydol yr holl sesiynau.  Dywedodd athrawes yn Ysgol Gynradd Clytha, Casnewydd fod y gweithgaredd yn hynod ddiddorol oherwydd y “Gweithgareddau ymarferol gyda’r offer – mae’r plant wrth eu bodd yn cymryd rhan”

Soniodd athro arall o Ysgol Gynradd Aberbargoed am y cyfle a ddarparwyd gan y cyllid:

“Roedd yn gyfle i ddisgyblion weithio gydag arbenigwyr mewn maes gwyddonol, gan godi eu dyheadau drostynt eu hunain fel dysgwyr. Darparodd gyfleoedd ar gyfer dysgu cydweithredol, datrys problemau a datblygu sgiliau llafaredd ochr yn ochr â’r prif amcanion.”

Bydd y prosiect ysgol uwchradd yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd gyda EESW eisoes wedi derbyn nifer o ddatganiadau o ddiddordeb.

Mae EESW yn edrych ymlaen at gyflwyno’r prosiectau hyn yn 2025 a gall ysgolion sydd â diddordeb yn y 10 awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru archebu sesiwn wedi’i hariannu’n llawn