Mae EESW yn cynnal gweithdai ynni ysgolion diolch i Gronfa Materion Cymunedol y Grid Cenedlaethol
Gyda chyllid gan Gronfa Materion Cymunedol y Grid Cenedlaethol, roedd EESW yn gallu cyflwyno pum gweithdy i dair ysgol gyfun ar draws De Cymru.
Bu disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Ysgol Gyfun Gellifedw ac Ysgol Gynradd Caradog yn cymryd rhan yn ein gweithgaredd tyrbinau gwynt yn nhymor yr haf 2024. Mae’r gweithdy hwn yn galluogi disgyblion i ddysgu sut mae tyrbin gwynt yn gweithio, sut maen nhw’n cael eu peiriannu ac adeiladu. Mae disgyblion yn defnyddio ein citiau i adeiladu eu tyrbin gwynt eu hunain a mesur yr ynni a gynhyrchir. Trwy addasu eu dyluniad, mae pob tîm yn cael y dasg o greu a chofnodi'r tyrbin gwynt mwyaf effeithlon. Mae’r gweithdy hefyd yn tynnu sylw at yrfaoedd mewn ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn y sector gwynt ar y môr ac ar y tir.
Dywedodd athrawes o Ysgol Gyfun Rhydywaun fod y gweithdy “wedi galluogi’r myfyrwyr i adeiladu ar wybodaeth roedden nhw wedi’i dysgu a’i rhoi mewn gweithgaredd ymarferol.”
Roedd ysgolion yn arbennig o ddiolchgar am y cyfle i weithio ar y prosiect hwn, dywedodd athrawes Esgob Llandaf ei bod yn “gwych rhoi gweithgaredd/prosiect ymarferol i’r myfyrwyr weithio ar y cysylltiadau hynny â’r cwricwlwm, heb fod yn seiliedig ar arholiadau… cit gallem ni ddim ariannu! ac wrth gwrs y sgiliau ehangach dan sylw, gan gynnwys gwrando a gweithio gyda darparwyr allanol.”
Dywedodd Rebecca Davies, Prif Swyddog Gweithredol EESW “Mae EESW yn ddiolchgar iawn i’r Grid Cenedlaethol am eu cefnogaeth barhaus drwy’r cyllid hwn, gan weithio’n agos ar ein prosiectau eraill fel ein Prosiect Chweched Dosbarth EESW a sesiynau Peilon i Bwer sy’n targedu cael mwy o fenywod i gymryd rhan mewn STEM mewn cydweithrediad â amgueddfa Pwll Mawr. Heb y cyllid hwn, ni fyddai EESW yn gallu darparu’r gweithdai hyn i ychydig llai na 200 o ddisgyblion yn Ne Cymru, sy’n hanfodol i ddatblygu sgiliau a chodi dyheadau pobl ifanc drwy ddangos cyfleoedd gyrfa lleol.”