EESW yn dod â digwyddiad Menywod mewn STEM i’r Senedd
04 Meh 2024

EESW yn dod â digwyddiad Menywod mewn STEM i’r Senedd

Ddydd Mawrth 4 Mehefin 2024, cynhaliodd EESW ddigwyddiad Holi ac Ateb ar gyfer y Panel Denu Merched i Faes STEM yn Adeilad Pierhead yng Nghaerdydd i ddathlu'r gwaith da sy'n cael ei wneud ledled Cymru i annog mwy o fenywod i ddilyn gyrfaoedd STEM.

Cadeiriwyd y digwyddiad, a drefnwyd mewn partneriaeth â Bute Energy, gan Brif Swyddog Gweithredol EESW, Rebecca Davies, a chafwyd digon o drafodaeth ysbrydoledig oedd yn procio’r meddwl ar bynciau’n ymwneud â modelau rôl benywaidd ym maes STEM a pha raglenni llwyddiannus sydd ar gael i annog mwy o ferched i ddilyn gyrfaoedd yn y meysydd hyn a chefnogi ein menter Panel Denu Merched i Faes STEM. Roedd y syniadau a rannwyd yn amhrisiadwy a does dim dwywaith y byddant yn helpu i greu dyfodol mwy disglair i fenywod a merched ym maes STEM.

Mae ystadegau diddorol yn dangos, er bod dros filiwn o fenywod yn gweithio mewn galwedigaethau STEM erbyn hyn, mai dim ond 29% o gyfanswm y gweithlu STEM ydyn nhw o hyd. Hefyd, mae ymchwil wedi dangos bod traean y bobl sydd mewn gweithleoedd STEM eu hunain yn credu nad oes digon o gynnydd wedi'i wneud i leihau gwahaniaethu ar sail rhywedd. Yn ôl arolwg diweddar Engineering UK a'r Gymdeithas Frenhinol, dim ond 16% o ferched sy'n credu bod gyrfa ym maes peirianneg yn addas iddyn nhw.

Diolch i'n panelwyr anhygoel Catryn Newton o Bute Energy, Alice Rothwell o BBC Cymru a Dr Mabrouka Abuhmida o Brifysgol De Cymru. Roedd eu harbenigedd a'u hangerdd yn amlwg yn y trafodaethau gan roi digon o bethau i’r gynulleidfa feddwl amdanyn nhw.

Roedden ni’n falch bod merched sy’n ddisgyblion yn Ysgol Gatholig Cardinal Newman, Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf wedi ymuno â ni ac roedd y panelwyr yn awyddus i rannu eu syniadau a’u straeon gyda nhw ar lwybrau gyrfa aflinol a sut i oresgyn y teimlad na ddylen nhw fod yno. Yn dilyn y sesiwn holi ac ateb, gwahoddwyd mynychwyr i rwydweithio dros ginio a rhoi cynnig ar ein gweithgaredd codio sfferos newydd.



Hoffem ddiolch i Natasha Asghar AS, am ei hanerchiad agoriadol ysbrydoledig a sefydlodd y naws ar gyfer trafodaethau'r dydd a Chyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru am eu cyllid parhaus sy'n ein galluogi i gynnal digwyddiadau fel y rhain.