EESW yn Cyflwyno Ynni Gwynt yn yr Ystafell Ddosbarth
Mae EESW wedi cyflwyno 30 o weithdai ysgol yn ystod y flwyddyn o dan brosiect Tyrbin Gwynt Pen y Cymoedd, gyda bron i 700 o ddisgyblion yn cymryd rhan o 17 o ysgolion gwahanol ar draws ardaloedd Rhondda, Cynon, Castell-nedd ac Afan.
Cynhaliwyd y prosiect o fis Ionawr i fis Awst 2024 a chymerodd disgyblion mor ifanc ag 8 oed hyd at 14 oed ran. Hoffem ddiolch i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd am ariannu'r prosiect Tyrbin Gwynt eleni, sydd wedi galluogi EESW i brynu pecynnau tyrbin gwynt newydd i wella'r gwaith o gyflwyno'r prosiect hwn a'n galluogi i gyflwyno gweithdai cyfoethogi i ysgolion o amgylch safle Fferm Wynt Pen y Cymoedd.
Mae'r tyrbinau gwynt newydd wedi cael derbyniad da iawn gan fyfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd gan eu bod yn debyg iawn i dyrbinau gwynt go iawn. Mae myfyrwyr wedi mwynhau dysgu am y rhesymeg a'r manteision y tu ôl i ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Yn ogystal â nod Llywodraeth Cymru i ddiwallu 100% o'i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Mae myfyrwyr wedi elwa hefyd ar gymryd rhan mewn gweithdy ymarferol dwyawr, lle gwnaethant ddysgu sut mae tyrbinau gwynt yn gweithio ac maen nhw wedi datblygu sgiliau datrys problemau trwy adeiladu a phrofi eu tyrbinau gwynt eu hunain gyda'r nod o gynyddu allbwn foltedd i'r eithaf. Hefyd, bu modd i fyfyrwyr ddatblygu llawer mwy o sgiliau hanfodol yn ystod y gweithdy hwn. Wrth weithio mewn grwpiau, defnyddiodd myfyrwyr sgiliau cyfathrebu i drosglwyddo gwybodaeth ac ychwanegu termau technegol fel gerau, llafnau, generaduron a moduron i'w geirfa.
Meddai un athro “Fe wnaeth y plant fwynhau'n fawr a dydyn nhw heb stopio siarad amdano drwy'r dydd. Byddem wrth ein bodd yn trefnu gweithdai yn y dyfodol.”
Ar ben hynny, gyda chymorth adnoddau a ddarperir gan Vattenfall sy'n berchen ar Fferm Wynt Pen y Cymoedd ac yn ei gweithredu, gallwn ysbrydoli myfyrwyr ynghylch swyddi yn y dyfodol drwy dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd yn yr ardal leol sy'n gysylltiedig â gwynt ar y tir.
Yn olaf, hoffem ddiolch i'r holl ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Gobeithio y gallwn gynnig y gweithdai hyn eto yn y dyfodol.