EESW yn cyflwyno Prosiect Lled-ddargludyddion Peilot gyda CSconnected
31 Mai 2024

EESW yn cyflwyno Prosiect Lled-ddargludyddion Peilot gyda CSconnected

Y mis hwn, fe wnaethon ni gyflwyno pedair sesiwn i 110 o ddisgyblion yn ysgolion cynradd y De, sef Ysgol Gynradd y Pîl, Ysgol Gynradd Afon y Felin, Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail ac Ysgol Gynradd y Bont-faen.

Roedd y gweithdai'n rhan o brosiect peilot gyda CSconnected, cwmni clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n gweithio yma yng Nghymru. Yn ystod y sesiynau, cafodd disgyblion gyfle i ddysgu am ddargludedd trydanol, polaredd a lled-ddargludyddion drwy gyfrwng gwaith modelu ymarferol gan ddefnyddio pecynnau electronig. Addaswyd cyflwyniadau i gysylltu â themâu neu gynlluniau gwaith cyfredol yr ysgolion i sicrhau nad oedd yr ymyrraeth yn cael ei hystyried yn rhywbeth ar wahân ac y gellid ei chynnwys yng ngwaith presennol yr ysgolion.

Meddai Mrs Millard o Ysgol Gynradd y Bont-faen: 

“Am brofiad dysgu ymarferol gwych i'r plant - diolch. Cysylltiadau gwych â sefyllfaoedd bywyd go iawn”.

Dywedodd Mr Hughes o Ysgol Gyfun Gymraeg Tonyrefail "Diwrnod gwych lle dysgodd plant sgiliau newydd i addysgu eu hunain am ddargludyddion, ynysyddion, lled-ddargludyddion a'r ffaith bod y rhan fwyaf o gylchedau trydanol yn gweithio gan ddefnyddio cydrannau mewnbwn, proses ac allbwn. Cafodd y plant flas arbennig ar y broses ymarferol o adeiladu'r cylchedau."

Mae EESW yn gobeithio parhau i weithio gyda CSconnected i gynnig prosiectau i ysgolion yn y dyfodol, ac mae digon o gyfle i ehangu. Byddai'r sesiynau'n fanteisiol i ysgolion trwy ganiatáu iddyn nhw ymgorffori'r cyflwyniad yn llawn wrth gynllunio'r cwricwlwm yn y dyfodol. Byddai’n golygu hefyd bod disgyblion yn dal i allu mwynhau gweithgareddau peirianneg blaengar yn y ’stafell ddosbarth, gan eu paratoi i wneud dewisiadau gwybodus am yrfaoedd ym myd diwydiant yn y De.