Ariannu Ffyniant a Rennir yn Ysgogi Menter Codio yn Ysgol Henry Richard
Ar 12 a 13 Mawrth, buom yn cynnal gweithdai codio dros ddau ddiwrnod yn Ysgol Henry Richard, Tregaron.
Cymerodd dros 60 o ddisgyblion Blwyddyn 7 ran yn y gweithgaredd lle buont yn dysgu am hanes codio a pha mor annatod ydyw yn ein bywydau bob dydd. Yna aethant ymlaen i ysgrifennu eu cod eu hunain gyda'r bwriad o symud robot micro:bit y BBC trwy gyfres o dasgau, gyda chefnogaeth lawn gan ddarparwr y gweithgaredd.
Erbyn diwedd y sesiwn, roedd disgyblion wedi llwyddo i raglennu trosglwyddydd a derbynnydd i gyflwyno rheolaeth o bell ac roeddent yn gallu profi eu cod trwy gêm 'rhyfeloedd robot' yn erbyn myfyrwyr eraill.
Bythefnos wedi'r sesiwn, dywedodd yr athrawes, Nicola Evans “Dyw’’r myfyrwyr ddim wedi stopio siarad amdano ers hynny [y gweithdy codio]”.
Cyflwynwyd y gweithdy fel rhan o'r Gweithdai Cyflwyniad i Beirianneg a Gweithgynhyrchu sy'n cael eu hariannu'n llawn ar gyfer ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, Conwy a Wrecsam, gyda chyllid gan Lywodraeth y DU, wedi'i yrru gan Y Gronfa Ffyniant Bro.