Rowndiau Terfynol Rhanbarthol Cyntaf Cynghrair Lego EESW STEM Cymru 2023
Cynhaliwyd y cyntaf o Rowndiau Rhanbarthol Terfynol Cynghrair Lego First EESW STEM Cymru ar 3 Chwefror 2023 yn Ysgol Gatholig Crist y Gair, Sir Ddinbych. Ychydig ddyddiau ar ôl digwyddiad cyntaf Cynghrair Lego Cyntaf EESW STEM Cymru yn y Gogledd, cynhaliodd EESW STEM Cymru ddigwyddiad Cynghrair Lego First yn y De-orllewin, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar 7 Chwefror 2023.
Cafodd ysgolion y Gogledd eu cefnogi gan EESW yn y cyfnod cyn y digwyddiad ac roedd safon y gwaith a gyflwynwyd gan Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn drawiadol iawn. Roedd y gwaith wedi cael argraff debyg ar y beirniaid a oedd yn mynychu’r digwyddiad, gyda lefelau cynllunio, arloesi a chodio’n gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn!
Llongyfarchiadau i’r holl dimau a fu’n cystadlu eleni, a llongyfarchiadau mwy hyd yn oed i’r enillwyr canlynol:
Gwobr Dylunio Robot – Ysgol Uwchradd Gatholig Crist y Gair
Gwobr Gwerthoedd Craidd – Ysgol Syr Hugh Owen
Prosiect Arloesedd – Ysgol y Creuddyn
Gwobr Gêm Robot – Ysgol Morgan Llwyd
Gwobr Seren Newydd – Ysgol Rhuthun
Gwobr Ysgogi – Ysgol Uwchradd Dinbych
Gwobr Pencampwyr y Gogledd – Ysgol Morgan Llwyd
Yn olaf, diolch yn fawr iawn i’r beirniaid a fynychodd, timau’r ysgolion a’u hathrawon am gymryd rhan, ac yn olaf i staff Ysgol Gatholig Crist y Gair am roi o’u hamser (a lle yn yr ysgol!) a gwneud y digwyddiad yn llwyddiant mawr!
Edrychwn ymlaen at ddigwyddiad y gogledd flwyddyn nesaf ar gyfer tymor 2023/24!
Cyrhaeddodd 11 o dimau’r De yn gynnar ar y bore Mawrth, yn awyddus i osod eu prosiectau yn eu lle ymlaen llaw a defnyddio’r ardal ymarfer ar gyfer unrhyw addasiadau munud olaf i’w codio a’u cyflwyniadau. Sgoriodd y timau’n dda ym mhob maes o’r gystadleuaeth, a gwnaeth nifer o’r Prosiectau Arloesi a ddatblygwyd gan y timau ar gyfer tymor hynod lwyddiannus eleni gryn argraff ar y beirniaid. Llongyfarchiadau i’r holl dimau a fu’n cystadlu eleni, a llongyfarchiadau mwy hyd yn oed i’r enillwyr canlynol:
Gwobr Dylunio Robot – Ysgol Bro Preseli
Gwobr Gwerthoedd Craidd – Ysgol Gyfun Rhydywaun
Prosiect Arloesedd – Ysgol Dyffryn Aman
Gwobr Gêm Robot – Ysgol Gynradd Oak Field
Gwobr Seren Newydd – Tîm 2 Ysgol y Pant
Gwobr Torri Trwodd – Ysgol Gynradd Tregatwg
Gwobr Ysgogi – Tîm 1 Ysgol y Pant
Gwobr Pencampwyr y De-orllewin - Ysgol Gymunedol Tonyrefail
Diolch yn fawr iawn i’r beirniaid a fynychodd, timau’r ysgolion a’u hathrawon am gymryd rhan, ac yn olaf i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe am gefnogi’r digwyddiad hwn unwaith eto.
Edrychwn ymlaen at ddigwyddiad y de-orllewin yn nhymor 2023/24!
Cynhaliwyd Rownd 3 o Rowndiau Terfynol Rhanbarthol Cynghrair Lego First EESW STEM Cymru i ysgolion y de-ddwyrain yn Y Coleg, Merthyr Tudful ddydd Gwener 10 Chwefror 2023.
Yn Rownd Derfynol Rhanbarthol y De-ddwyrain eleni roedd yna gymysgedd dda o ysgolion a oedd yn newydd i’r Gynghrair. Bu’r rhain yn cystadlu yn erbyn ysgolion mwy profiadol, i gyd yn awyddus i ennill gwobr a chael eu coroni yn Bencampwyr Rhanbarthol. Roedd Dylunio Robot yn gategori cryf, gyda thimau’n dangos popeth roedden nhw wedi’i gyflawni drwy’r tymor yn falch i’r beirniaid. Roedd hi’n wych hefyd gweld ‘proffesiynoldeb hawddgar’ gydol y digwyddiad, rhywbeth sy’n gwbl ganolog i FIRST.
Llongyfarchiadau i’r holl dimau a fu’n cystadlu eleni, a llongyfarchiadau mwy hyd yn oed i’r enillwyr canlynol:
Gwobr Sêr Newydd – Ysgol Glan Ceubal
Gwobr Torri Trwodd – Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Gwobr Ysgogi – Ysgol Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Gwobr Dylunio Robot – Ysgol Uwchradd Caerdydd
Gwobr Gwerthoedd Craidd – Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
Gwobr Prosiect Arloesol - Cymuned Ddysgu Ebw Fawr
Gwobr Gêm Robot – Ysgol Cil-y-coed
Gwobr Pencampwyr y De-ddwyrain – Ysgol Cil-y-coed
Diolch yn fawr iawn i’r beirniaid a fynychodd, timau’r ysgolion a’u hathrawon am gymryd rhan, ac yn olaf i staff Coleg Merthyr Tudful am gefnogi’r digwyddiad a helpu i wneud y diwrnod yn llwyddiant mawr!
Gobeithio y bydd ysgolion y de-ddwyrain yn awyddus i gystadlu eto yn nhymor 2023/24!
Mae’r tri thîm oedd yn Bencampwyr Rhanbarthol o bob digwyddiad eleni wedi cael gwahoddiad i gynrychioli Cymru a mynychu Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Cynghrair Lego First sy’n cael eu cynnal ddydd Sadwrn 22 Ebrill 2023 yng Nghanolfan Gynadledda Harrogate:
Ysgol Morgan Llwyd
Ysgol Gymunedol Tonyrefail
Ysgol Cil-y-coed
Pob lwc i’r holl dimau o Gymru sy’n mynd ymlaen i’r rownd derfynol gan bawb yma yn EESW!