Mhrosiect EESW 2022-23
Llongyfarchiadau i’r 80 tîm ym mhob cwr o Gymru a gymerodd ran ym Mhrosiect EESW 2022-23 Eleni, cwblhaodd 18 tîm o’r Gogledd a 62 tîm o’r De y Prosiect a chymryd rhan yn nigwyddiadau Gwobrau a Diwrnod Cyflwyno EESW 2023. Cynhaliwyd digwyddiad y Gogledd yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher 22 Mawrth a digwyddiad y De mewn lleoliad newydd sbon, Arena Abertawe, ddydd Llun 27 Mawrth 2023.
Yn ystod y digwyddiadau, cafodd prosiectau’r myfyrwyr eu harddangos a’u hasesu gan weithwyr proffesiynol gwirfoddol yn STEM, a oedd wedi adolygu eu hadroddiadau ysgrifenedig ymlaen llaw. Cafodd y timau gyfle hefyd i gael eu henwebu am wobrau o £500 mewn categorïau amrywiol. Yn y digwyddiadau, roedd y myfyrwyr yn gallu ymweld ag amrywiaeth o stondinau arddangos o’r byd masnach a’r byd academaidd hefyd i gael cipolwg ar gyrsiau a dewisiadau gyrfa ym maes STEM.
Hoffem ddiolch i’n holl noddwyr, cwmnïau cyswllt a pheirianwyr, athrawon, aseswyr, ac arddangoswyr am flwyddyn lwyddiannus arall o Brosiect Chweched Dosbarth EESW, rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus i’r cynllun sydd wedi bod ar waith am dros 30 mlynedd erbyn hyn.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran eleni, roedd safon y prosiectau’n uchel iawn a oedd yn gwneud y dasg o asesu’n anodd iawn i’r beirniaid gwirfoddol!
Unwaith eto eleni, rydym yn falch bod y Prosiect wedi galluogi athrawon, peirianwyr, cynrychiolwyr cwmnïau ac aseswyr gwirfoddol i ennill tystysgrif a gymeradwyir gan CPD UK i gydnabod eu hamser yn gweithio gyda ni.
Enillwyr Gwobrau Prosiect EESW 2022-23
Y Gogledd
Y Cymhwysiad Gorau o Fathemateg wedi’i noddi gan Addysgwyr Cymru
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Coleg Meirion Dwyfor -Pwllheli
- Coleg Meirion Dwyfor- Dolgellau
Enillydd – Coleg Meirion Dwyfor – Pwllheli yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth
Y Cymhwysiad Gorau mewn Peirianneg a Thechnoleg wedi’i noddi gan yr IET
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Coleg Menai
- Ysgol Bryn Elian
- Ysgol Uwchradd Dinbych
- Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn
Enillydd – Ysgol Uwchradd Dinbych yn gweithio gyda Toyota
Gwobr Ian Binning – Y Defnydd Gorau o Egwyddorion Peirianneg Fecanyddol wedi’i noddi gan yr IMechE
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Coleg Menai
- Ysgol Friars 1
Enillydd – Ysgol Friars 1 yn gweithio gyda’r Grid Cenedlaethol
Cynllun Mwyaf Arloesol neu Addasedig wedi’i noddi gan KLA
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Ysgol Bryn Elian
- Ysgol Friars 3
- Ysgol Glan Clwyd
Enillydd - Ysgol Bryn Elian yn gweithio gyda JCB Transmissions
Defnydd Gorau o STEM ar gyfer Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd wedi’i noddi gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Ysgol Glan Clwyd
- Coleg Menai
- Coleg Dewi Sant
Enillydd – Coleg Menai yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Adroddiad Ysgrifenedig Cyffredinol Gorau wedi’i noddi gan CBAC
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Ysgol Bryn Elian
- Ysgol Friars 3
- Ysgol Glan Clwyd
Enillydd – Ysgol Glan Clwyd yn gweithio gyda Fifth Wheel Company
Y De
Gwerthfawrogiad Gorau o Faterion Amgylcheddol wedi’i noddi gan Bute Energy
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Ysgol Stanwell 3
- Coleg Catholig Dewi Sant 1
- Ysgol Esgob Gore
- Ysgol Gymunedol Tonyrefail
- Ysgol Bro Teifi
Enillydd – Ysgol Esgob Gore yn gweithio gyda Gwyddor Deunyddiau Prifysgol Abertawe
Defnydd Gorau o Fathemateg wedi’i noddi gan Addysgwyr Cymru
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd …
- Ysgol Gyfun Gwyr 1
- Coleg Sant Ioan
- Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd 3
Enillydd - Ysgol Gyfun Gwyr 1 yn gweithio gyda Pheirianneg Awyrofod Prifysgol Abertawe
Y Dyluniad Peirianneg Cemegol/Proses Gorau wedi’i noddi gan IChemE
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd …
- Ysgol Rougemont 1
- Ysgol Tregŵyr
- Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera Bro Dur
Enillydd - Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn gweithio gyda Vale Europe Limited
Y Cymhwysiad Gorau mewn Peirianneg a Thechnoleg wedi’i noddi gan yr IET
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd …
- Ysgol Cil-y-coed 2
- Ysgol Stanwell 1
- Coleg Gŵyr Abertawe – Gorseinon
Enillydd – Ysgol Cil-y-coed yn gweithio gyda Microchip
Gwerthfawrogiad Gorau o Faterion Diogelwch wedi’i noddi gan yr IMechE
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Coleg Gwent- Glynebwy 3
- Coleg Gwent- Glynebwy 4
- Ysgol Bro Preseli 2
Enillydd – Coleg Gwent Glynebwy 4 yn gweithio gyda Thales
Y Cyflwyniad Mwyaf Effeithiol o’r Datrysiad a Ddetholwyd
- Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun
- Ysgol Brynteg 1
- Coleg Gwent – Torfaen
Enillydd -Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yn gweithio gyda Future Valleys Construction
Y Defnydd Gorau o Egwyddorion Peirianneg Drydanol wedi’i noddi gan IQE
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd 2
- Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd 3
Enillydd – Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd 3 yn gweithio gyda Huntleigh Healthcare
Cynllun Mwyaf Arloesol neu Addasedig wedi’i noddi gan KLA
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Ysgol Cil-y-coed 2
- Coleg Catholig Dewi Sant 1
- Ysgol Gyfun Cynffig
Enillydd – Ysgol Gyfun Cynffig yn gweithio gyda Zimmer Biomet
Perfformiad Tîm Cyffredinol Gorau wedi’i noddi gan National Grid
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Coleg Gwent Torfaen
- Ysgol Stanwell 1
- Ysgol Cil-y-coed 2
Enillydd – Ysgol Stanwell 1 yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Abertawe – Adeiladu a’r Amgylchedd
Y Model neu’r Prototeip Gorau wedi’i noddi gan SWIEET
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Coleg Gŵyr Abertawe - Gorseinon
- Coleg Gwent – Torfaen
- Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun
Enillydd – Coleg Gŵyr Abertawe, Gorseinon yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Abertawe - Peirianneg
Y Defnydd Gorau o STEM ar gyfer Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd wedi’i noddi gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Ysgol Gyfun Gwyr 1
- Ysgol Esgob Gore
- Ysgol Bro Teifi
- Ysgol Brynteg 1
- Ysgol Gymraeg Gwynllyw 1
Enillydd – Ysgol Brynteg 1 yn gweithio gyda SAS International
Yr Ateb Mwyaf Arloesol i’r Prosiect a Bennwyd wedi’i noddi gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru
- Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Sant Joseff 2
- Ysgol Uwchradd Fitzalan 2
Enillydd – Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Sant Joseff yn gweithio gyda Associated British Ports
Yr Adroddiad Ysgrifenedig Cyffredinol Gorau wedi’i noddi gan CBAC
Yr enwebiadau ar gyfer y wobr hon oedd…
- Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun
- Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd 2
- Ysgol Bro Preseli 2
- Coleg Gŵyr Abertawe - Gorseinon
- Ysgol Stanwell 3
Enillydd – Ysgol Bro Preseli 2 yn gweithio gyda Ore Catapult
Mae Prosiect EESW yn rhan o STEM Cymru 2 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru i weithredu yn y Gogledd, y Gorllewin a’r Cymoedd. Rydym yn ddiolchgar hefyd am gyllid parhaus gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru i gynnal gweithgareddau mewn ardaloedd eraill o Gymru