Mae’r Prosiect Ffermio Cynaliadwy yn dod i ben
Ar ôl ei lansio ym mis Tachwedd, mae’r Prosiect Ffermio Cynaliadwy wedi cael hanner tymor cyntaf gwych ac mae’r rownd gyntaf o brosiectau bellach yn dod i ben.
Mae dros 200 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 o bum ysgol yn Ne Cymru wedi cymryd rhan. Mae disgyblion wedi bod yn brysur yn adeiladu, gosod, codio a phlannu i dyfu cnydau microwyrdd yn barod ar gyfer eu blasu yn y fan a’r lle a datblygu set newydd o sgiliau trwy’r broses.
“Rydym mor ddiolchgar am y profiad a’r cyfle rydych wedi’u rhoi i’r plant ddatblygu ystod eang o sgiliau: TGCh; adeiladu, gwyddoniaeth - mae wedi bod yn anhygoel. Mae pawb sydd wedi gweld y citiau wedi eu syfrdanu ac wedi creu argraff ar rieni hefyd! Mae’r plant wedi bod wrth eu bodd yn eu cael a diolchwn i chi am eich amser a’ch cefnogaeth wrth helpu’r prosiect hwn i weithio yn ein hysgol.”
Athrawes Blwyddyn 6, Ysgol Gynradd Willowbrook, Caerdydd
Mae EESW yn ddiolchgar i Sefydliad Spectris am gyllid i allu datblygu a chyflwyno’r gweithgaredd hwn i ysgolion cynradd ac mae gennym ysgolion eisoes wedi cofrestru ar gyfer y tymor nesaf, a fydd yn cynnwys darpariaeth yng Ngogledd Cymru.