Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory a Llwyddiant y Prosiect Peilot
Dechreuodd ein prosiect Trawsnewid Meddyliau Ifanc am Yfory yn gynharach eleni gyda chyllid drwy Gronfa Adnewyddu Gymunedol y DU.
Nod y prosiect yw rhoi cipolwg i ddisgyblion ar fyd gweithgynhyrchu a diwydiant a chael gwybodaeth a phrofiad o dechnoleg. Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Conwy, a Sir Ddinbych, ac yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae 8 ysgol uwchradd, 40 ysgol gynradd a dros 1400 o fyfyrwyr wedi ymgysylltu.
Mae'r sesiynau'n cynnwys myfyrwyr yn gweithio ar ddylunio 2-ddimensiwn gyda chymorth cyfrifiadur a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur (CAD/CAM), CAD/CAM 3-dimensiwn gydag argraffu 3D a chodio bygi microbit i'w helpu i ddarganfod eu ffordd o gwmpas eu hysgol uwchradd newydd. Cyflwynir hyn dros gyfnod o dair sesiwn, ac mae disgyblion yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadur rhydd fel y gallant barhau i ddysgu naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref.
Mae’r prosiect wedi bod yn werth chweil hyd yn hyn i’r staff cyflwyno a’r myfyrwyr a gymerodd ran, ac mae athrawon hefyd wedi gallu elwa ar y profiad o fod yn rhan o’r sesiynau hyn. Rydym wedi derbyn adborth gwych i ddangos bod y gweithgareddau yn hwyl a bod myfyrwyr yn dysgu llawer am ddulliau modern o ddylunio a gweithgynhyrchu.
Mae myfyrwyr ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 9 neu 10 hefyd yn cymryd rhan, gyda'r nod o fod yn fentoriaid i fyfyrwyr ysgol gynradd drwy gydol y broses. Gall y gwaith mentora hwn wneud cyfraniad sylweddol i adran Her y Gymuned eu Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Genedlaethol a fydd yn cael ei dyfarnu iddynt ar ddiwedd Blwyddyn 11.
Yng Ngogledd Cymru, uchafbwynt y sesiwn gyntaf yw ‘Brwydr Frenhinol’ y Jitterbugs – dim ond y rhai sydd wedi’u hadeiladu’r orau sydd yn goroesi.
Cymerodd Ysgol Uwchradd Prestatyn yn Sir Ddinbych rhan hefyd, ac anfonon nhw ddisgyblion Blwyddyn 10 er mwyn mentora plant Blwyddyn 6 trwy rai o’r gweithgareddau a gafodd croeso mawr gan y ddau grŵp. Rhoddwyd llawer o ymdrech i mewn gan Ysgol Prestatyn a’i hysgolion cynradd er mwyn cynnal y sesiwn, gyda chanlyniadau positif fel effaith.
Llwyddiant enfawr oedd sesiynau Silhouette a gafwyd eu darparu ym Mhen-y-bont a Blaenau Gwent, lle gwelsom ddysgwyr yn defnyddio’r feddalwedd dylunio 2D yn rhwydd a gyda hyder. Dyluniwyd Jitterbugs anhygoel gan ddysgwyr, yng nghyd â chymryd rhan yn ‘Jitter-offs’ i brofi pwy adeiladodd y rhai i bara.
Diolch i'n dîm darparu sydd wedi’i arwain gan Chris Harris, mae’r adborth hyd yma wedi bod yn wych ar draws y prosiect Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory a dywedodd rhai ysgolion eu bod am brynu argraffydd 3D ar gyfer prosiectau dosbarth.
Ewch i'n dudalen Trawsnewid Meddyliau Ifanc Ar Gyfer Yfory am fwy o wybodaeth ac i weld Trydariadau o ysgolion sydd wedi cymryd rhan.
Os ydy’ch ysgol yn un o’r rhanbarthau a gaiff eu hariannu rydym wedi trafod uchod ac eisiau cymryd rhan yn y prosiect Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory, cysylltwch gyda ni ar info@stemcymru.org.uk.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.