Mynychodd 70 o fyfyrwyr o Gymru ddigwyddiadau Headstart Cymru ym mis Gorffennaf 2022
Mae cyrsiau preswyl Headstart Cymru yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr Blwyddyn 12 dreulio amser mewn Adran Beirianneg neu Gyfrifiadureg yn y Brifysgol cyn cyflwyno eu cais UCAS.
Rydym wedi cynnal 3 chwrs Preswyl Headstart ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe ym mis Gorfennaf eleni.
Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddau gwrs preswyl Headstart Cymru mewn Peirianneg a Chyfrifiadura Cymhwysol ac Adeiladu a’r Amgylchedd. Gyda'r nos, cymerodd myfyrwyr ran mewn cwis a chwarae gemau yn y ‘labordy gemau’.
Roedd y cwrs Peirianneg ym Mhrifysgol De Cymru yn cynnwys sgyrsiau gan adrannau Electronig & Chynnal a Chadw Awyrennau a Chyfrifiadura’r Brifysgol a gwneud eu balmiau gwefus eu hunain.
Cynhaliodd Prifysgol Abertawe gwrs Peirianneg a oedd yn cynnwys sgyrsiau a gweithgareddau yn seiliedig ar bynciau fel peirianneg gemegol, peirianneg sifil a pheirianneg fecanyddol.
Dywedodd Rebecca Davies, Prif Weithredwr EESW “Diolch i’r holl brifysgolion sydd wedi cefnogi STEM Cymru i’n galluogi ni i gynnig y cyfle gwych hwn i bobl ifanc unwaith eto. Roedd yr holl fyfyrwyr a fynychodd ddigwyddiad wedi mwynhau’r profiad a’r darlithoedd diddorol a gafodd y staff academaidd yn fawr. cyflawni, cymaint ag y gwnes i fy hun! Mae'r garfan hon o ddisgyblion Blwyddyn 12 wedi colli llawer o gyfleoedd i fynychu digwyddiadau corfforol ar adegau allweddol yn eu bywydau, a gobeithiwn ei fod wedi eu helpu i gael mewnwelediad da i gyrsiau cyn gwneud cais i brifysgol y flwyddyn nesaf."