STEM Cymru yn cyhoeddi cyllid newydd i gynnal prosiectau peilot yn 2022
Mae EESW yn Cyhoeddi Cyllid Newydd i redeg Prosiectau Peilot yn 2022. Bydd y prosiectau'n cael eu rhedeg mewn chwe awdurdod lleol o dan y flaenoriaeth Buddsoddi mewn Sgiliau, gan ganolbwyntio ar fewnwelediad gyrfaoedd a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer rolau mewn STEM yn y dyfodol.
Mae’n bleser gan STEM Cymru gyhoeddi ei fod wedi llwyddo i dderbyn £492,350 gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU i gynnal prosiectau peilot yn y Flwyddyn Newydd.
Bydd y prosiectau’n cael eu cynnal mewn chwe awdurdod lleol o dan y flaenoriaeth Buddsoddi mewn Sgiliau, gan ganolbwyntio ar flas ar yrfaoedd a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rolau STEM yn y dyfodol.
Bydd y prosiect Cysylltu Athrawon â Diwydiant yn cael ei gynnal yn rhanbarthau Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf a bydd yn creu cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer gweithwyr addysgu proffesiynol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd digwyddiadau yn cyflwyno athrawon i gyffro a rhyfeddodau gweithgynhyrchu a pheirianneg a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r gyrfaoedd arloesol a gwerth chweil amrywiol sydd ar gael yn y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Creadigol a Digidol ac Ynni a’r Amgylchedd yn y rhanbarth.
Bydd Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 ysgolion cynradd a disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 ysgolion uwchradd gydweithio fel rhan o brosiect gweithgynhyrchu digidol. Bydd y prosiect yn gwella profiadau dysgu ledled y cwricwlwm gyda ffocws ar gymhwysedd digidol, CAD, CAM a rheolaeth ddigidol. Bydd STEM Cymru yn darparu a chyflawni’r prosiect gyda chefnogaeth lawn i ddisgyblion ac athrawon sy’n cymryd rhan. Bydd ysgolion o Ben-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Conwy a Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.
Meddai Rebecca Davies, Prif Swyddog Gweithredol STEM Cymru: “Rydym yn falch iawn i ni fod yn llwyddiannus gyda’r cynigion hyn o dan y Gronfa Adfywio Cymunedol a fydd yn galluogi STEM Cymru i dreialu cynlluniau newydd i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa lleol a rhoi sgiliau ychwanegol i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol. Bydd y prosiectau yn arloesol ac yn treialu elfennau o ddarpariaeth nad fu’n bosibl o dan gyllid blaenorol. Mae amserlen fer i drefnu gweithgarwch rhwng Ionawr a Mehefin 2022, felly rydym yn annog ysgolion sydd â diddordeb yn y rhanbarthau a ariennir i gymryd rhan cyn gynted â phosibl er mwyn cael y budd mwyaf posibl a byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau bod pob ysgol yn derbyn y cyfle i gael cymorth.
Gwnaed y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU yn gynnar ym mis Tachwedd, a bydd STEM Cymru yn dechrau ar y gwaith o fis Ionawr 2022. Mae STEM Cymru yn gobeithio recriwtio unigolion brwdfrydig i ymuno â’r tîm i gyflawni’r prosiectau cyffrous hyn a dylai unrhyw ymgeiswyr â diddordeb fynd i’n tudalen swyddi gwag yn https://www.stemcymru.org.uk/cartref/amdanom-eesw-stem-cymru/swyddi-gwag