01 Hyd 2021
Ar Y Ffordd i Aer Glanach
Rydym yn falch o fod yn lansio ail gam ein gweithdy ‘On the Road to cleaner Air’ a’n Cystadleuaeth Arwyddion Ffyrdd i Gymru.
Rydym yn falch o fod yn lansio ail gam ein gweithdy ‘On the Road to cleaner Air’ a’n Cystadleuaeth Arwyddion Ffyrdd i Gymru. Mae EESW yn cynnal y gystadleuaeth ar ran Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am ansawdd aer ar ochr y ffordd yng Nghymru. Mae'r gystadleuaeth ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 a gellir lawrlwytho templed ar gyfer dyluniadau yma. Bydd y dyluniad arwyddion ffordd buddugol yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau ledled Cymru yn 2022! Dyddiad Cau 17 Ionawr 2022.
Fel rhan o’r gystadleuaeth rydym yn cynnal gweithdai AM DDIM ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac mae dewis o dri gweithdy gan gynnwys “Pwysigrwydd Aer”, “Cerbydau, Allyriadau, a’n hamgylchedd” a “Dod o Hyd i Atebion i’n Llygredd ar Ochr y Ffordd” . Dyluniwyd sesiynau i fod yn drawsgwricwlaidd ac archwilio esblygiad awyrgylch y Ddaear a rôl ocsigen, llygredd NOx o geir mewn sesiwn ymarferol ac atyniadol, a ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â llygredd aer. Gall ysgolion sydd â diddordeb mewn archebu sesiwn yn ystod tymor yr hydref gysylltu â ni i archebu eu lle yma.