14 Chw 2022
Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2021
Ymunwch â ni ar gyfer cyhoeddiad yr enillydd a’r ail safle ar ddydd Iau 17 Chwefror 2022 am 4pm wedi’i gyflwyno gan Lucy Owen o BBC Cymru.
Gwahoddwyd myfyrwyr a gymerodd ran yn y Prosiect EESW ym mlwyddyn academaidd 2020-21 i wneud cais am Wobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW 2021 i gael cyfle i ennill £800 tuag at astudio pwnc STEM.
Cyfwelwyd 10 myfyriwr, a dewiswyd 3 yn y rownd derfynol o'r broses hon.