Mae Bob Cater, Prif Swyddog Gweithredol EESW, yn ymddeol ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth
Mae Prif Swyddog Gweithredol Cynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW) yn ymddeol ar ôl mwy na 30 mlynedd o wasanaeth i’r sefydliad.
Mae Bob Cater, addysgwr o fri sydd ag angerdd am gyflwyno pobl ifanc i fyd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn camu i lawr o'i swydd fel Prif Swyddog Gweithredol ddiwedd Medi 2020. Ymunodd Bob â'r sefydliad newydd ym 1989 fel Cadeirydd y Bwrdd, cyn cymryd yr awenau gan y sylfaenydd Austin Mathews MBE fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach.
Mae'r Cynllun ei hun wedi'i anelu'n nodweddiadol at fyfyrwyr chweched dosbarth sy'n chwilfrydig am beirianneg, gan roi'r cyfle iddynt fod yn bartner gyda chwmni lleol am 28 wythnos ac ymgymryd â her beirianneg yn y byd go iawn. Ers ei sefydlu ym 1989, mae mwy na 2,000 o gyfranogwyr EESW wedi symud ymlaen i astudio Peirianneg yn y Brifysgol neu wedi cymryd gwaith yn y sector.
Er mwyn newid canfyddiadau am yrfaoedd mewn peirianneg a chau'r bwlch sgiliau, roedd Bob yn cydnabod bod angen i EESW ymgysylltu â dysgwyr yn gynharach o lawer yn eu gyrfa ysgol. Trwy gydol ei gyfnod deiliadaeth, cyflwynodd Bob mentrau newydd i ehangu portffolio EESW i gyrraedd mwy na 9,000 o fyfyrwyr ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru bob blwyddyn academaidd. Trwy greu'r Prosiect STEM Cymru a phartneriaethau gyda F1 mewn Ysgolion, Engineering UK a Shell, mae EESW wedi dod yn gyflenwr dibynadwy o addysg STEM i fwy na 200 o Ysgolion Cymru.
Mae Bob wedi gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Cyfarwyddwyr i hwyluso trosglwyddo dyletswyddau gweithredol yn llyfn i Rebecca Davies, a fydd yn ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Gweithrediadau o'r 1af o Hydref 2020. Mae Rebecca wedi graddio mewn mathemateg ac wedi gwasanaethu fel ail reolwr i Bob am bron i 10 mlynedd. Bydd Rebecca yn canolbwyntio ar adeiladu ar fomentwm a llwyddiannau llinynnau prosiect EESW a STEMCymru a chyflwyno dulliau newydd o ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ifanc mewn byd ôl-Covid-19.
Mae'r Bwrdd yn hyderus y bydd Rebecca, ynghyd â'i thîm, yn arwain y sefydliad i'w gam nesaf. Bydd y cyfuniad o gymhwysedd gweithredol profedig, rhagwelediad strategol a rhwydwaith rhanddeiliaid cryf yn gosod EESW i fanteisio ar gyfleoedd newydd i ysbrydoli cenhedlaeth ymhellach.
Mae ymadawiad Bob yn nodi diwedd cyfnod i EESW, a bydd colled fawr ar ei angerdd a'i arweinyddiaeth. Mae EESW yn diolch i Bob am ei wasanaeth eithriadol a'r etifeddiaeth gynaliadwy y mae'n ei gadael ar ôl. Mae'r Bwrdd yn obeithiol y bydd Bob yn parhau i fod yn ffrind i EESW am nifer o flynyddoedd i ddod ac mae'n edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous i addysg STEM yng Nghymru.