Enillwyr Myfyriwr Y Flwyddyn EESW 2020
Llongyfarchiadau i'r holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni.
Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW yn ddathliad o’r myfyrwyr a fu’n cymryd rhan ym Mhrosiect Chweched Dosbarth EESW y llynedd ac fe’i noddir yn ddiolchgar gan Industry Wales.
Gwahoddwyd dros 450 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 a gymerodd ran yn y cynllun y llynedd i wneud cais i ddod yn Fyfyriwr y Flwyddyn EESW, gydag 11 ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Gwahoddwyd 4 myfyriwr a gafodd eu cyfweld o Ogledd a De Cymru i ddod i seremoni wobrwyo rithwir eleni, a gynhaliwyd fel rhan o Ddigwyddiad AutoLink 2020 Fforwm Modurol Cymru ddydd Iau 26 Tachwedd 2020. Cyhoeddwyd yr enillydd a'r ail orau gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates. Mae recordiad o'r cyflwyniad gwobrau ar gael isod.
Bu enillydd y wobr o £800 eleni, sef Stephen Cowley o Ysgol David Hughes, yn gweithio gyda Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor ar brosiect i ymchwilio i ba mor ddiogel yw'r salad a'r llysiau wedi'u golchi mewn bagiau yn ein harchfarchnadoedd.
Cynlluniodd a chynhaliodd Stephen a'i dîm arbrofion i ddod i'w casgliad ac fe'u henwebwyd ar gyfer gwobrau am y Cymhwysiad Gwyddoniaeth Gorau a'r Adroddiad Ysgrifenedig Cyffredinol Gorau.
Dr Gwyndaf Roberts, Darlithwr Mewn Bioleg Celloedd yn y Ysgol Gwyddorau Meddygol, Prisygol Bangor meddai:
“Rydym i gyd yn yr Ysgol y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor yn falch iawn o glywed bod Stephen wedi ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW / STEM Cymru 2020. Trwy gydweithrediad agos ein gwyddonwyr ymchwil a'n darlithwyr, cymerodd Stephen ran mewn prosiect a roddodd flas o sut brofiad yw bod yn ficrobiolegydd proffesiynol sy'n mynd i'r afael ag ymchwiliad iechyd cyhoeddus realistig. Roedd yn rhan o’r tîm o Ysgol David Hughes a oedd yn gallu ymweld â’n labordai a defnyddio technegau a deunyddiau nad ydynt ar gael mewn labordy ysgol. Gan weithio'n agos gydag un o'r tîm ymchwil, fe wnaethant ddadansoddi'r ystod o facteria a geir ar ddail salad archfarchnad wedi'u golchi ymlaen llaw. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod gan Stephen a'i gyd-fyfyrwyr o Ysgol David Hughes ddyfodol disglair mewn gwyddoniaeth. "
Bydd cystadleuwyr teilwng a ddaeth yn agos i’r brig, sef Mithun Padmanabhan o coleg chweched dosbarth Caerdydd a fu’n gweithio gyda Network Rail, Macey Taylor o Ysgol Uwchradd Hawarden a fu’n gweithio gyda Raytheon a Thomas Elliott o Ysgol Y Preseli a fu’n gweithio gyda Mainstay Marine yn derbyn £400 yr un tuag at eu hastudiaethau yn y dyfodol.
I gael mwy o wybodaeth am ein Prosiect EESW, cliciwch yma.