Enillwyr yn cynrychioli Cymru yn Singapore
Front page article from this year's Talent magazine by Gwenno Williams, Ysgol Gyfun Llangefni
Meddyliwch am sut byddwch yn YSBRYDOLI eich myfyrwyr ac ystyriwch beth yr hoffech iddyn nhw ei gael o gynllun gwers heddiw.
Mae Drive, sef tîm o chwech o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Llangefni, yn mentro ar daith i Singapore fel pencampwyr Cymru yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion. Canolbwynt y gystadleuaeth yw model o gar F1 y mae’n rhaid i’r timau ei ddylunio gan ddefnyddio meddalwedd dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) i gynhyrchu darluniau er mwyn creu’r car mewn canolfan weithgynhyrchu EESW. Yn ogystal â dylunio, profi a chynhyrchu darluniau ar gyfer gweithgynhyrchu ei gar rasio, roedd angen i’r tîm ddylunio arddangosfa pit, a chreu portffolio o’i broses ddylunio a chasglu nawdd, a roddwyd yn hael gan nifer o gwmnïau lleol.
Dechreuodd y tîm ei daith ym mis Mawrth eleni yn rownd ranbarthol y gystadleuaeth a drefnwyd gan EESW ac a gynhaliwyd yn Ninbych. Ar ôl ennill sawl gwobr a lle yn y rownd derfynol genedlaethol yn Silverstone, teithiodd y tîm i gartref rasio Formula 1 ym Mhrydain, a oedd hefyd yn llwyfan i’w misoedd lawer o waith caled. Yma, cawsant eu coroni’n bencampwyr Cymru, ennill gwobr am ‘Hunaniaeth Tîm’ yn ogystal â bod yn un o dri thîm a enwebwyd am ddwy wobr arall. Dyma gamp anferth i’r tîm, gan mai dyma’r ysgol gyntaf o Ynys Môn i gyrraedd y rhan hon o’r gystadleuaeth, ac mae’n awyddus i lwyddo dros ei wlad.
Mae’r tîm wedi cael cymorth aruthrol gan y gymuned wrth godi’r £30,000 oedd ei angen er mwyn teithio a chystadlu – ac nid oedd yn dasg hawdd o bell ffordd. Yn Singapore, bydd Drive yn chwifio’r ddraig goch yn falch, gan mai nhw fydd cynrychiolwyr y genedl a fydd yn cystadlu yn erbyn 51 o wledydd eraill. Maen nhw wedi datblygu eu car ymhellach, gan obeithio cael cymaint o lwyddiant ag y cawsant yn y rowndiau terfynol rhanbarthol a chenedlaethol. Mae gan bob aelod o’r tîm rôl benodol sy’n manteisio ar eu cryfderau unigol; mae hyn yn golygu bod y llwyth gwaith yn cael ei rannu, gan wneud i bethau redeg yn hwylus. Mae hyn yn hanfodol, gan fod angen llawer o waith datblygu ac addasu i gyrraedd safon uchel y rownd derfynol ryngwladol, a heb lawer o amser i wneud hynny, gan y cynhelir y gystadleuaeth ar ddechrau mis Medi eleni.
Dywedodd un aelod o’r tîm: "Mae’r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion wedi caniatáu i ni weld peirianneg mewn goleuni newydd, ac mae wedi rhoi cymaint o atgofion bythgofiadwy a fydd yn newid ein bywydau. Yn sicr, mae wedi dylanwadu ar ddewisiadau gyrfa llawer ohonom ni, gan ein bod ni wedi cael profiad uniongyrchol o ddefnyddio gwybodaeth wyddonol a oedd gennym ni eisoes mewn cyd-destun cyffrous er mwyn datrys problemau go iawn. Rydym ni hefyd yn teimlo’n falch iawn o gael cyfle i gynrychioli ein gwlad ar lwyfan fyd-eang."