Mae disgyblion yn ystyried hanes prostheteg a sut y maent wedi datblygu i weithio'n ddi-dor yn y byd modern. Mae disgyblion yn gweithio mewn timau i adeiladu eu braich prosthetig eu hunain gan ddefnyddio pecyn Lego Spike, yna byddant yn defnyddio cod i reoli a dilyn cyfarwyddiadau syml.  
Daw'r sesiwn i ben gyda gweithgaredd her lle mae disgyblion yn defnyddio eu braich prosthetig.    

Archeby gweithdy

Sut mae'n gweithio

Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 ac uwch ac mae'n para tua 2 awr ar gyfer dosbarth o 30 disgybl.

Hanner diwrnod £325 (ar gyfer 2 weithdy), diwrnod llawn £495

Gellir trafod amseroedd a dyddiadau wrth archebu'r gweithdy. 

Mae gweithdai a ariennir yn llawn ar gael i ysgolion uwchradd yng Nghonwy a Phen-y-bont ar Ogwr trwy ein prosiectau a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU hyd at fis Mawrth 2025 .  

Pam cymryd rhan

✔ Darperir yr holl offer angenrheidiol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn gan EESW.  
✔ Gellir darparu ar gyfer nifer o wahanol ddosbarthiadau a grwpiau blwyddyn hefyd.  
Bydd angen i'ch ysgol ddarparu taflunydd/sgrin i arddangos cyfarwyddiadau, digon o le i adeiladu'r LEGO Prosthetics a dau fwrdd sbâr ar gyfer y gweithgaredd terfynol ddigwydd.