Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ac mae'n para tua 2 awr ar gyfer dosbarth o 30 disgybl.
Diwrnod llawn £495 (digon ar gyfer 2 weithdy), 2 ddiwrnod llawn £850, 3 diwrnod llawn £1200.
Gellir trafod amseriadau a dyddiadau wrth archebu'r profiad. Hanner diwrnod ar gael ar gais.
Bydd angen i'ch ysgol ddarparu taflunydd/sgrin i arddangos cyfarwyddiadau a rhywfaint o ofod llawr lle gall y disgyblion brofi eu robotiaid.