Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 ac mae'n cymryd tua 1.5 - 2 awr gyda dosbarth o 30.
Does dim angen unrhyw ddysgu blaenorol mewn electroneg na deunyddiau ar gyfer y gweithdy, a bydd y disgyblion yn cael llawer o hwyl wrth ddarganfod sut y gellir defnyddio electroneg a lled-ddargludyddion.
Mae gweithdai wedi'u hariannu'n llawn ar gael ar gyfer ysgolion cynradd yn awdurdodau lleol De-ddwyrain Cymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) trwy ein prosiect CSconnected.
Bydd angen i ysgolion ddarparu taflunydd/sgrin i arddangos y cyfarwyddiadau a gofod ystafell ddosbarth addas i gynnal y gweithdy.
Diwrnod gwych gyda’r plant yn dysgu sgiliau newydd i addysgu eu hunain am ddargludyddion, ynysyddion, lled-ddargludyddion a bod y rhan fwyaf o gylchedau trydanol yn gweithio gan ddefnyddio cydrannau mewnbwn, prosesau ac allbwn. Cafodd y plant hwyl arbennig ar y gweithgaredd ymarferol o adeiladu'r cylchedau.