Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer cam cynnydd 4 ac mae'n para tua 2 awr ar gyfer dosbarth o hyd at 30 o ddisgyblion sy'n gweithio mewn grwpiau bach.
Does dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol. Yn ystod y cyfnod hwn bydd disgyblion yn codio, cydosod, profi ac arddangos eu Cartrefi Clyfar.
Gellir trafod amseriadau a dyddiadau wrth archebu'r profiad.
Mae'r gweithdai hyn a ariennir yn llawn ar gael ar gyfer ysgolion cynradd yn awdurdodau lleol De-ddwyrain Cymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) trwy ein prosiect CSconnected.
Darperir yr holl adnoddau ar gyfer cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn gan EESW. Dim ond lle addas sydd angen i’r ysgol ei ddarparu, ynghyd â dyfeisiau megis gliniaduron neu Chromebooks gyda mynediad at y rhyngrwyd ac aelod o staff i'w goruchwylio.