Mae’r her STEM hon, sy’n agored i blant 9-11 oed, yn annog disgyblion i ddylunio a rasio car rasio Dosbarth Cynradd F1 mewn Ysgolion.
Gydag olwynion, corff a hyd yn oed gyrrwr model, bydd timau’n cystadlu mewn digwyddiad rhanbarthol am wobrau uchel eu bri, a gallent yn y pen draw gael eu coroni’n Enillwyr Rhanbarthol Cymru a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU.
Gall EESW gynnig ymweliad cymorth â’ch ysgol i sicrhau bod gennych chi a’ch disgyblion bopeth sydd ei angen arnoch i gymryd rhan.
Gall ysgolion gystadlu gyda hyd at 5 tîm o 3-6 disgybl a fydd yn mynd ati i ddylunio a gweithgynhyrchu’r car cyflymaf posibl, gan efelychu’r prosesau a ddefnyddir gan gwmnïau peirianneg go iawn cyn paratoi eu ceir ar gyfer rasio. Asesir timau ar gyflymder, cynllun a pheirianneg y ceir, cyflwyniad llafar a hyd yn oed y ffordd y maent yn arddangos eu gweithfan (y pit).
Mae 3 opsiwn gweithgynhyrchu i dimau gynhyrchu cyrff eu ceir, gan gwmpasu pob lefel o sgiliau ac amserlen sy’n golygu bod Her Dosbarth Cynradd F1 mewn Ysgolion yn addas i bob gallu. Gall EESW hyd yn oed gefnogi timau gyda chyfarpar i weithgynhyrchu cyrff eu ceir eu hunain os ydynt yn dymuno.
I’r timau mwyaf cystadleuol, gall EESW gynnig profion twnnel gwynt yn ein canolfan weithgynhyrchu neu yn yr ystafell ddosbarth, lle gall disgyblion ddysgu sut i wella aerodynameg eu ceir eu hunain a chreu dyluniadau gwych buddugol.
Mae’r her yn ysbrydoli disgyblion i ddatblygu eu sgiliau STEM a dysgu am feysydd ffiseg, aerodynameg, dylunio, gweithgynhyrchu, nawdd, marchnata, arweinyddiaeth/ gwaith tîm a’u cymhwyso mewn ffordd ymarferol, ddychmygus, cystadleuol a chyffrous.
Fel cyflwyniad i Her Dosbarth Cynradd F1 mewn Ysgolion, efallai y bydd ysgolion am gymryd rhan yn ‘Her Cyflymder’ EESW – sef gweithgaredd lle bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn ragflas, gan gydosod a rasio ceir rasio F1 syml yn neuadd eu hysgol. Yna, gall ysgolion ddewis timau i fynd ymlaen a chystadlu yn y Her Dosbarth Cynradd F1 mewn Ysgolion.
Bydd ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn yr Her Jaguar 2D o’r blaen yn gyfarwydd â sawl agwedd ar yr hyn sydd gan Her Dosbarth Cynradd F1 mewn Ysgolion i’w gynnig ac fe’u hanogir i gymryd rhan.