Mae’r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn cynnwys timau o fyfyrwyr yn dylunio a chynhyrchu model o gar rasio F1 sy’n defnyddio C02 gan ddefnyddio meddalwedd dylunio a thechnegau gweithgynhyrchu cyfrifiadurol soffistigedig (CAD/CAM).
Mae EESW yn derbyn cyllid gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru felly nid yw ffi gofrestru F1 mewn Ysgolion yn berthnasol. Fodd bynnag gofynnwn am gyfraniad o £45 y tîm tuag at weithgynhyrchu un car a chostau rhedeg y gystadleuaeth.
Gall EESW gynnig ymweliad cymorth â’ch ysgol i sicrhau bod gennych chi a’ch disgyblion bopeth sydd ei angen arnoch i gymryd rhan.
Gall ysgolion gystadlu gyda hyd at 5 tîm o 3-6 disgybl a fydd yn mynd ati i ddylunio a gweithgynhyrchu’r car cyflymaf posibl, gan efelychu’r prosesau a ddefnyddir gan gwmnïau peirianneg go iawn cyn paratoi eu ceir ar gyfer rasio. Asesir timau ar gyflymder, cynllun a pheirianneg y ceir, cyflwyniad llafar a hyd yn oed y ffordd y maent yn arddangos eu gweithfan (y pit).
Gall ysgolion gynnwys cynifer o ddisgyblion ag y dymunant a gallant gofrestru tri thîm o hyd at chwech o fyfyrwyr yn rowndiau rhanbarthol Cymru.
Mae’r her yn ysbrydoli myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau STEM a dysgu am ffiseg, aerodynameg, dylunio, gweithgynhyrchu, brandio, graffeg, nawdd, marchnata, arweinyddiaeth/gwaith tîm, sgiliau’r cyfryngau a strategaeth ariannol, a’u defnyddio mewn ffordd ymarferol, ddychmygol, gystadleuol a chyffrous.
Gall EESW STEMCymru hefyd ddarparu diwrnodau rasio yn yr ysgol, wedi'u teilwra i'ch anghenion. Gall hyn gynnwys dosbarthiadau cyfan neu grwpiau blwyddyn a gellir ei gyflwyno yn neuadd eich ysgol. Yna gellir dewis timau buddugol i fynychu'r rowndiau terfynol rhanbarthol.
A fyddai eich tîm yn elwa o sesiwn ar aerodynameg a'r cyfle i arbrofi gyda Thwnnel Gwynt graddedig ? Neu efallai bod eich tîm eisoes wedi cynhyrchu eu car ac yn edrych i'w brofi i weld pa mor dda y mae'n perfformio?
Gall EESW ddarparu profion twnnel gwynt naill ai yn ein canolfan weithgynhyrchu neu yn yr ystafell ddosbarth, lle gall disgyblion ddysgu sut i wella aerodynameg eu ceir a throi dyluniadau gwych yn ddyluniadau buddugol.
Mae timau o Gymru sy'n cymryd rhan yn her F1 mewn Ysgolion yn gymwys i gael car wedi'i weithgynhyrchu am ddim gan EESW.
Rhoddir cyfle i dimau ymweld â'u canolfan leol i weld eu ceir yn cael eu gweithgynhyrchu yn bersonol a hyd yn oed gymryd rhan yn y broses. Ar gyfer timau nad ydynt yn gallu ymweld, gallant anfon eu dyluniadau gorffenedig yn uniongyrchol atom lle byddant yn cael eu cynhyrchu a'u dychwelyd drwy'r post.
"Mae'r gystadleuaeth F1 mewn ysgolion wedi rhoi ffocws gwych i'r adran a'r ysgol ar gyfer ystod o ddisgyblion sydd â meddwl technegol, creadigol ac sydd â diddordeb mewn busnes. Am yr ychydig fisoedd diwethaf mae'r myfyrwyr wedi ymgolli bob amser cinio wrth ddylunio cysyniadau , dysgu sut i ddefnyddio CAD 3D, cynllunio gweithgareddau, codi arian trwy gysylltu â noddwyr a gweithgynhyrchu'r ceir rasio. Dyma'r drydedd flwyddyn i'r ysgol gystadlu ac mae'r gystadleuaeth yn dod yn fwy a mwy poblogaidd."
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
"Mae disgyblion yn ymgysylltu o'r eiliad y maent yn cychwyn y prosiect, sgiliau bywyd go iawn sy'n gwella eu dysgu o'r cychwyn. Mae timau'n mynd i'r afael â heriau sy'n profi gwytnwch ac arloesedd, wrth ddatblygu gwaith tîm a chydweithio â busnesau a gweithgynhyrchwyr i greu'r car perffaith.
Mae'r sgiliau cychwynnol a ddysgir yn yr her hon yn caniatáu i'r disgyblion weithio gydag eraill a dysgu am gyfaddawdu ac amynedd.
Mae agweddau menter a pheirianneg y dasg yn caniatáu i ddisgyblion ymchwilio a datblygu gwybodaeth am broblemau go iawn sy'n gysylltiedig
i'r byd F1."
Coleg Sant Ioan Caerdydd
Mae cystadleuaeth ysgolion uwchradd F1 mewn Ysgolion yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru.