Mae EESW yn trefnu ymweliadau â chwmnïau lleol er mwyn i ddisgyblion gael cipolwg ar weithgareddau’r cwmni, profi’r hyn sy’n digwydd a datblygu gwerthfawrogiad o’r gwahanol amgylcheddau sy’n bodoli. Mae disgyblion yn cyfarfod gweithwyr cyflogedig sy’n trafod eu cefndir a’u rolau yn y cwmni, maen nhw’n cael taith o’r safle ac mae’r diwrnod yn cynnwys gweithgaredd ymarferol.
Fe’u hanogir i gynnwys eu harsylwadau yn eu pynciau yn yr ysgol, yn benodol STEM, a thrafod sut bydd eu dewis o bynciau TGAU yn dylanwadu ar eu llwybr gyrfa eu hunain posibl.
Mae disgyblion yn cael y cyfle i ymweld ag adrannau peirianneg mewn prifysgolion, lle byddant yn cael taith o’r cyfleusterau a chymryd rhan mewn gweithgareddau dan oruchwyliaeth staff prifysgol. Nod y diwrnod yw dangos sut beth yw bywyd prifysgol ac annog merched i ystyried mynd i brifysgol i astudio pynciau STEM.
Mae ein menter Denu Merched i Faes STEM yn rhaglen boblogaidd o ddigwyddiadau sy'n ceisio annog disgyblion benywaidd i ymddiddori'n ymarferol pynciau STEM cyn gwneud eu dewisiadau TGAU.
Mae EESW yn derbyn cyllid yn ddiolchgar gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru i redeg ei rhaglen Merched mewn STEM.
Ariennir y Rhaglen Merched i STEM yn rhannol gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru.