Cystadleuaeth gwyddoniaeth a thechnoleg fyd-eang ar gyfer timau o fyfyrwyr yw FLL, i annog diddordeb mewn materion byd go iawn a datblygu sgiliau allweddol sy'n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae'r myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd fel tîm ac yn archwilio pwnc gwyddonol penodol ac yn cynllunio, rhaglennu a phrofi robot ymreolaethol i ddatrys sawl cenhadaeth.
Mae'r Her FLL ar gyfer pobl ifanc rhwng 9 ac 16 oed, sy'n gweithio mewn timau o hyd at ddeg gyda mentor cynorthwyol. Bob blwyddyn mae FLL yn rhyddhau her newydd i'r timau.
I gymryd rhan, bydd angen i dimau gael mynediad at y canlynol:
Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb ar gyfer tymor 2024-25 "SUBMERGED" llenwch y ffurflen hon
Gallwn gefnogi ysgolion trwy gynnig sesiynau cyflwyno diolch i Sefydliad Spectris.