Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory - Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
Ionawr-Rhagfyr 2022 – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Conwy a Sir Ddinbych
Cafodd prosiect Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory ei ddatblygu a'i gyflawni gan EESW mewn ysgolion cynradd ac uwchradd mewn pedair ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Nod y prosiect oedd creu a threialu gweithgareddau a phrofiadau rhyngweithiol er mwyn tynnu sylw disgyblion cynradd blynyddoedd 5 a 6 a disgyblion uwchradd blynyddoedd 10 ac 11 at gyffro a rhyfeddodau gweithgynhyrchu a pheirianneg a chodi ymwybyddiaeth o'r gyrfaoedd arloesol a gwerth chweil amrywiol sydd ar gael yn y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Digidol a Chreadigol, ac Ynni a'r Amgylchedd.
Cyflwynodd EESW dair sesiwn fel rhan o'r prosiect, gan gynnwys gweithdai codio, argraffu 2D a 3D. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein herthygl newyddion: https://www.stemcymru.org.uk/cartref/newyddion-stem-cymru/2022/trawsnewid-meddyliau-ifanc-ar-gyfer-yfory-a-llwyddiant-y-prosiect-peilot/
Trosolwg o'r Prosiect:
Denwyd 2,406 o bobl ifanc i gymryd rhan yn y prosiect yn erbyn targed o 1,500 (447 ym Mlaenau Gwent, 585 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 713 yng Nghonwy a 661 yn Sir Ddinbych). Bu myfyrwyr o 55 o ysgolion ar draws y pedwar awdurdod lleol yn cymryd rhan, yn ogystal â 78 o athrawon a fydd, gobeithio, yn parhau â'r hyn a ddysgwyd o'r prosiectau yn eu hystafelloedd dosbarth gyda disgyblion y dyfodol.
Daeth canfyddiadau'r gwerthusiad allanol a gynhaliwyd gan Arad Research i'r casgliad canlynol:
- Roedd pob un o'r 21 ysgol gynradd a ymatebodd i'r arolwg naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n gryf bod y dysgwyr fu'n rhan o'r sesiynau wedi cael llawer iawn o'r profiad.
- Roedd 18 (86%) o athrawon ysgolion cynradd a arolygwyd yn cytuno'n gryf, a 3 (14%) yn cytuno bod dysgwyr wedi mwynhau gweithgareddau'r sesiynau ac ymgysylltu'n dda â nhw. Hefyd, roedd yr un gyfran yn cytuno'n gryf ac yn cytuno bod y sesiynau wedi cynyddu brwdfrydedd dysgwyr am bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
- Roedd 16 (76%) yn cytuno'n gryf a 3 (24%) yn cytuno bod y sesiynau wedi gwella gwybodaeth STEM dysgwyr fu'n cymryd rhan.
- Roedd 14 (66%) yn cytuno'n gryf a 7 (34%) yn cytuno bod y sesiynau wedi gwella sgiliau llythrennedd digidol dysgwyr (e.e. sgiliau cyfrifiadurol / defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol amrywiol) ac
- Roedd 11 (52%) yn cytuno'n gryf a 10 (48%) yn cytuno bod y sesiynau wedi gwella sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm y dysgwyr.
“Un o brif gryfderau'r prosiect yw'r graddau y mae'r gweithgareddau sy'n rhan o'r sesiynau yn ategu ac yn cyd-fynd â'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfDC) ac elfennau gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (CWRE) y Cwricwlwm newydd i Gymru 2022.”
Lawrlwytho’r adroddiad gwerthuso llawn
Effaith y Prosiect:
Cyfweliadau athrawon:
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.