Tomorrow's Engineers Energy Quest
31 Gor 2020

Tomorrow's Engineers Energy Quest

2017-2020 – Rhaglen Energy Quest - Engineering UK

Ariannwyd prosiect Energy Quest gan Shell UK trwy Tomorrow's Engineers a'i gyflwyno ledled y DU.  Rhaglen gysylltiedig â'r cwricwlwm ar gyfer ysgolion oedd hon a oedd yn annog pobl ifanc i ddysgu a deall popeth am ynni cynaliadwy a dysgu am yrfaoedd peirianneg cysylltiedig.

Cyflwynodd EESW Raglen 'Tomorrows Engineers Energy Quest' ar ran Engineering UK rhwng 2017 a 2020 i 36 o ysgolion y flwyddyn yng Nghymru, a oedd yn cynnwys cymysgedd o ysgolion a wnaeth ddychwelyd yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn ogystal ag ysgolion newydd a gyflwynwyd i'r rhaglen. 

Dyfarnwyd contract Cymru i EESW STEM Cymru ac yn ystod y contract tair blynedd cychwynnol, darparwyd cyflwyniad a gweithgaredd mewnol yn seiliedig ar anghenion ynni a dal carbon i 50% o holl ysgolion uwchradd Cymru.  Targedwyd ysgolion yn dibynnu ar eu canrannau prydau ysgol am ddim a lefelau cyrhaeddiad TGAU Gwyddoniaeth a Mathemateg, gyda'r nod o ennyn diddordeb 50/50 o fechgyn a merched. 

Cyflwynodd EESW ymchwiliad car rasio wedi'i bweru gan ynni solar gan ddefnyddio cynwysyddion i amrywio pellter teithio'r car. Dywedodd Engineering UK, wnaeth oruchwylio a monitro pob contract, bod EESW STEM Cymru yn ddarparwyr rhagorol.