Prosiect STEM Cymru I a II
30 Meh 2023

Prosiect STEM Cymru I a II

Cronfa Gymdeithasol Ewrop – Gorffennaf 2010-Mehefin 2023 – Ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (Cydgyfeirio) Cymru

Prosiect tair blynedd oedd STEM Cymru yn wreiddiol, a gyflwynwyd trwy raglen ariannu Cronfa Gymdeithasol Ewrop 2007-2013.  Wedi sawl rownd lwyddiannus o estyniad, llwyddodd EESW gyda'i gais am ail brosiect o raglen ESF 2014 i 2020 ar gyfer prosiect dwy flynedd.  Cafodd hyn ei ymestyn eto, a daeth i ben ym mis Mehefin 2023 pan ddaeth cyllid yr UE i ben.  Mae EESW yn ddiolchgar i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru am y cymorth yn ystod y cyfnod hwn o dair blynedd ar ddeg. 

Mae'r pum maes prosiect a gyflwynwyd ers 2010 yn cynnwys:

      • Prosiect Chweched Dosbarth EESW
      • Headstart Cymru
      • F1 mewn Ysgolion
      • i2E (Cyflwyniad i Beirianneg)
      • Denu Merched i Faes STEM
      • Un o elfennau'r prosiect oedd prosiect Chweched Dosbarth Cynllun Addysg Peirianneg Cymru, gan gysylltu timau o fyfyrwyr Blwyddyn 12 â chwmni lleol i weithio ar broblem ymchwil peirianneg go iawn. Mae'r prosiect yn para am 6 mis ac yn gorffen gyda digwyddiad gwobrwyo terfynol lle mae myfyrwyr yn cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig ac yn cyflwyno eu canfyddiadau i banel o beirianwyr proffesiynol neu academyddion.  Mae'r digwyddiad gwobrwyo diweddaraf a gyflwynwyd yn ystod y prosiect i'w weld yma:

Digwyddiad a chyfweliadau Diwrnod Cyflwyno a Gwobrwyo EESW a Phrosiect F1 mewn Ysgolion, De Cymru

Uchafbwyntiau Diwrnod Cyflwyno a Gwobrwyo EESW a Phrosiect F1 mewn Ysgolion, De Cymru

Nod gweithdai i2E oedd gwella sgiliau, gan gynnwys cymhwysedd digidol, ac er mwyn hybu sgiliau cyflogadwyedd ehangach hefyd.  Oherwydd hyd cyllid STEM Cymru, cynlluniwyd y sesiynau i gwmpasu technolegau newydd wrth iddynt fod ar gael yn haws i ysgolion.  Datblygodd digwyddiadau Denu Merched i Faes STEM o'r elfen Denu Merched i Faes Peirianneg wreiddiol, i ddangos y rolau a gyrfaoedd amrywiol sydd ar gael a chynnig cyfle i ferched ymwneud â'r diwydiant cyn dewis eu pynciau TGAU. Headstart Cymru oedd y gweithgaredd olaf y gallai disgyblion gymryd rhan ynddo yn ystod Blwyddyn 12/13, er mwyn cael blas gwerth chweil ar y meysydd pwnc sydd ar gael i'w hastudio ar lefel addysg uwch.  

Tua diwedd cyllid yr UE, datblygwyd ein gweithgareddau i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd i Gymru, ac ar themâu cynaliadwyedd a newid hinsawdd, gan gynnwys ynni adnewyddadwy a thyrbinau gwynt, llygredd aer, amaethyddiaeth gynaliadwy ynghyd â chodio, gyda'r nod o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithlu'r dyfodol yma yng Nghymru. 

 

Cyflawniadau’r Prosiect

Yn ystod oes prosiect STEM Cymru I a II, fe wnaeth 22,676 o bobl ifanc gymryd rhan (10530 o fechgyn a 12146 o ferched). 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer STEM Cymru

(Gorffennaf 2010-Mehefin 2015)

Targed

Cyflawnwyd

% cyflawni

2100 - Nifer fu'n cymryd rhan

6085

7067

Bechgyn - 3307

Merched -3760

116%

2103 -

Targed - Niferoedd yn ennill canlyniadau cadarnhaol eraill

(adrodd yn flaenorol yn erbyn targed

2101 - Niferoedd yn ennill cymwysterau)

1759

1813

Bechgyn - 1121

Merched - 692

103%

2123 - Cyflogwyr yn cydweithio â darparwyr addysg/hyfforddiant

110

123

112%

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer STEM Cymru 2

(Gorffennaf 2015-Mehefin 2023)

Targed

Cyflawnwyd

% cyflawni

Pobl ifanc 11-19 oed

Bechgyn – 6287

Merched – 7166

Total - 13453

Bechgyn – 7223

Merched – 8386

Total - 15609

115%

117%

116%

Pobl ifanc 11-19 oed yn cwblhau hyfforddiant mewn STEM

Bechgyn – 2443

Merched – 1797

Total - 4240

Bechgyn – 2459

Merched – 1956

Total - 4415

101%

109%

104%

Pobl ifanc 11-19 oed sy'n parhau i astudio pwnc STEM ôl-16

Bechgyn – 641

Merched – 285

Total - 926

Bechgyn – 643

Merched – 326

Total - 969

100%

114%

104%

 

Profiadau cyn-fyfyrwyr Prosiect EESW

Ym mis Chwefror 2023, anfonodd EESW Arolwg Rhanddeiliaid i gael adborth ar ein gweithgareddau a'r effaith gawson nhw at athrawon, beirniaid gwirfoddol, peirianwyr a chynrychiolwyr prifysgolion. Cawsom ein syfrdanu gan nifer yr ymatebion a'r sylwadau cadarnhaol a ddaeth i law, fel:

“Mae EESW yn darparu cysylltiad hanfodol rhwng addysg a'r diwydiant STEM. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn meithrin cysylltiadau, ehangu'r cyfleoedd i ddisgyblion a'u helpu i ganfod pa faes STEM sydd o ddiddordeb gwirioneddol iddyn nhw. Mae wedi fy helpu i ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol STEM, gwella fy sgiliau cyfathrebu, a rhoi yn ôl i'r math o gynlluniau a helpodd fi i gyrraedd lle rydw i heddiw”

“Roedd prosiect Chweched Dosbarth EESW yn gyfleoedd anhygoel i'r disgyblion. Bob blwyddyn roedden ni'n cymryd rhan, a llwyddodd y disgyblion i fagu hyder ac ennill llwyth o sgiliau. Fe gododd yn rheolaidd yn ystod cyfweliadau prifysgol disgyblion. Mae'r cynllun F1 mewn Ysgolion wedi'i drefnu'n dda bob amser, a'r disgyblion yn ei fwynhau. Rydyn ni'n gallu ei addasu fel ysgol, ac mae wedi caniatáu i ni ei redeg mewn ffordd sy'n gweddu i'n hanghenion.”

“Mae disgyblion wedi cael mynediad at yrfaoedd o ganlyniad i'r gweithgareddau hyn. Maen nhw wedi cynnig cyfleoedd unigryw i unigolion a grwpiau. Mae'r gweithgareddau wedi codi proffil STEM ac wedi hyrwyddo gyrfaoedd fel opsiwn hyfyw i fechgyn a merched. Ar ben hynny, maen nhw wedi datblygu fy ymarfer fel athro a'm dealltwriaeth ddiwydiannol hefyd.”

Gallwch weld yr adroddiadau gwerthuso llawn yma:

Gwerthusiad STEM Cymru

Gwerthusiad STEM Cymru 2

Ariannwyd STEM Cymru I a II gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.  

Bydd elfennau F1 mewn Ysgolion a Denu Merched i Faes STEM yn parhau i gael eu darparu gyda chyllid gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru, a bydd Headstart Cymru yn cael ei ddarparu yn 2023 gyda chyllid drwy'r Cymoedd Technoleg.  Mae EESW wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gyflwyno prosiectau i2E yng Ngheredigion, Conwy a Wrecsam.