Cysylltu Athrawon â Diwydiant - Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
31 Ion 2023

Cysylltu Athrawon â Diwydiant - Cronfa Adfywio Cymunedol y DU

Ionawr-Rhagfyr 2022 – Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf

Nod y Prosiect Cysylltu Athrawon â Diwydiant oedd cyflwyno digwyddiadau i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf (RhCT).

Y nod oedd cyflwyno holl gyffro a rhyfeddodau gweithgynhyrchu a pheirianneg i athrawon, a chodi ymwybyddiaeth o'r gyrfaoedd arloesol a gwerth chweil amrywiol sydd ar gael yn y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Creadigol a Digidol ac Ynni a'r Amgylchedd yn y rhanbarth.

Cynhaliwyd digwyddiadau yn Dragon Film Studios gyda Screen Alliance Wales, Eriez Magnetics, GE Aviation Wales ac Aston Martin. Gan ei bod hi'n anodd i athrawon fynychu digwyddiadau allanol yn sgil y pandemig, gostyngwyd targedau'r prosiect cychwynnol, ac roedd 134 o athrawon wedi cymryd rhan o 40 ysgol (65 athro o 20 ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 69 athro o 20 ysgol yn RhCT).  

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein herthygl newyddion: https://www.stemcymru.org.uk/cartref/newyddion-stem-cymru/2022/the-connections-teachers-with-industry-project/

Lawrlwytho’r adroddiad gwerthuso llawn

Rhestr chwarae fideos a chyfweliad EESW gyda Screen Alliance Wales

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.