Cystadleuaeth Rali GB Cymru
01 Gor 2019

Cystadleuaeth Rali GB Cymru

2013-2019 – Llywodraeth Cymru a Big Bang – Engineering UK

Rhwng 2013 a 2019, bu EESW yn gweithio gyda chwmni Toyota, Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru i gynnal digwyddiadau Big Bang @Wales Rally GB yn y Gogledd. Gwahoddwyd ysgolion i fynychu ac ymweld â'r parc gwasanaeth rali a'r pentref STEM a oedd yn cynnwys amrywiaeth o arddangosfeydd gan y diwydiant a chael cyfle i brofi taith ffatri Toyota. 

Fel rhan o'r digwyddiad, cynhaliodd EESW gystadleuaeth flynyddol i ddisgyblion ddylunio eu car Rali GB Cymru eu hunain.  Gofynnwyd i ymgeiswyr gynhyrchu brasluniau neu waith celf a ddyluniwyd gan ddefnyddio CAD yn dangos lifrai eu ceir, a defnyddiwyd dyluniad un enillydd lwcus ar gar Toyota. 

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein herthygl newyddion:

https://www.stemcymru.org.uk/cartref/newyddion-stem-cymru/2019/rali-cymru-du-dylunio-car-rali-cystadleuaeth-ar-agor-nawr/