31 Rhag 2022
Ar y Ffordd i Aer Glanach
2022 – Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol (ESNR) Llywodraeth Cymru
Cyflwynwyd y prosiect a'r gystadleuaeth hon ar ran Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol (ESNR) Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Diwrnod Aer Glân 2022. Cynhaliodd EESW weithdai i 40 o ysgolion uwchradd y wlad er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblem ansawdd aer.
Roedd y gweithgaredd yn cynnwys tair sesiwn ar bwysigrwydd aer yn ein hatmosffer; cerbydau a'u hallyriadau, effaith ar ein hamgylchedd, a dylunio arwydd ffordd i hysbysu gyrwyr am yr effaith.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein herthygl newyddion:
Diweddariad Hydref 2024 - Arwyddion ffordd wedi'u comisiynu yng Ngogledd Cymru hyd yn hyn:
A483
A494