Prosiect Lled-ddargludyddion Peilot yn Ne Cymru 2024
31 Mai 2024

Prosiect Lled-ddargludyddion Peilot yn Ne Cymru 2024

Prosiect peilot - CSconnected - Gwanwyn 2024

Datblygwyd a chyflwynwyd prosiect peilot CSconnected gan EESW i 110 o fyfyrwyr ym mhedair o ysgolion cynradd y De.

Prif nod y prosiect oedd treialu gweithgareddau electronig rhyngweithiol mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth o'r diwydiant lled-ddargludyddion a'r cyfleoedd gyrfa dilynol yn y De.

Creodd EESW y prosiect peilot o amgylch ymyrraeth, ac yna prosiect dilynol y gallai myfyrwyr ei gwblhau yn yr ystafell ddosbarth wedi'r cyflwyniad.

Addaswyd cyflwyniadau i gysylltu â themâu neu gynlluniau gwaith presennol yr ysgolion i sicrhau nad oedd yr ymyrraeth yn cael ei gweld fel rhywbeth ar wahân a bod modd cynnwys hynny o fewn gwaith presennol ysgolion.

Cynlluniwyd prosiect dilynol i gyfrannu at fapio gwaith prosiect ysgol unigol tuag at y Cwricwlwm i Gymru. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r dull datrys problemau ailadroddol maen nhw’n ei ddefnyddio eisoes yn eu gwaith prosiect.  

Amcanion y prosiect oedd:

  1. Codi ymwybyddiaeth o ddargludedd mewn deunyddiau a sefydlu gwybodaeth am ganfod dargludiad.
  2. Meithrin gwybodaeth am gylchedau electronig syml sy'n cyflwyno mewnbynnau ac allbynnau amgen i efelychu atebion i broblemau dylunio mewn amgylcheddau a sefyllfaoedd gwahanol.
  3. Myfyrwyr i lunio portffolio dylunio sy'n cynnwys archwilio ac Ymchwiliad i ddeunyddiau a lled-ddargludyddion.

Cafodd dulliau cyflawni ymyrraeth eu gwerthuso gan yr athro dosbarth a derbyniodd EESW sylwadau cadarnhaol iawn, gan ddangos llwyddiant y prosiect peilot hwn.  

Darllenwch yr erthygl newyddion yma