Gweithdai i2E wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer Ysgolion Uwchradd yng Ngheredigion a Chonwy sy’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 gan gynnwys ein Her Cyflymder EESW, gweithdy BBC micro:bit, gweithdy Tyrbinau Gwynt a gweithdy Prostheteg newydd.
Os hoffech archebu sesiwn neu ddarganfod mwy, cysylltwch â ni
Lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth am brosiectau ar gyfer I2EM Conwy ac I2EM Bridgend
ARIENNIR Y PROSIECT GAN LYWODRAETH Y DU
Mae'r prosiect Ffermio Cynaliadwy yn gwahodd disgyblion i weithio gyda'i gilydd i dyfu bwyd mewn tŷ gwydr digidol y maent wedi'i adeiladu a'i godio. Gyda ffocws ar gynaliadwyedd mae disgyblion Cam Cynnydd 3 (CC3) yn cael eu cyflwyno i'r mudiad ffermio trefol sy'n dod â chnydau i'n trefi a'n dinasoedd, gan ailddefnyddio lleoliadau trefol nad ydynt yn cael defnydd digonol, lleihau milltiroedd bwyd a chysylltu pobl â'r bwyd y maent yn ei fwyta yn eu cymunedau.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer ysgolion cynradd.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Mae'r prosiect Ffermio Cynaliadwy yn gwahodd disgyblion i weithio gyda'i gilydd i dyfu bwyd mewn tŷ gwydr digidol y maent wedi'i adeiladu a'i godio.
Yn CC4 mae'r prosiect wedi'i wreiddio mewn dealltwriaeth o effaith modelau cynhyrchu bwyd traddodiadol a newid hinsawdd ar fioamrywiaeth ac mae'n archwilio ffermio trefol a ffermio mewn amgylchedd rheoledig fel dewisiadau amgen gyda manteision ar gyfer diogeledd bwyd a chynaliadwyedd yn ehangach.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Sefydliad Spectris.
Mae EESW yn cyflwyno tair her ranbarthol yn y Gynghrair First Lego bob blwyddyn yng Ngogledd, De-ddwyrain a De-orllewin Cymru, ar ran IET.
Mae'r gweithgaredd yn agored i ysgolion cynradd ac uwchradd, ac mae tri chategori oedran gwahanol.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan yr IET a'r Sefydliad Spectris.
Mae StemCymru/EESW yn falch o gynnig gweithgareddau Cartrefi Clyfar a Chwilotwyr Cylchedau sydd wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd cymwys sydd wedi'u lleoli o fewn deg awdurdod lleol De-ddwyrain Cymru.
Ariennir y prosiect hwn gan CSconnected a gellir cyflwyno’r gweithdai i gyd-fynd â chwricwlwm yr ysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25.
Mae EESW yn falch o gynnig nifer cyfyngedig o Weithdy Tyrbinau Gwynt ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion y sesiwn i ysgolion cynradd ac uwchradd yn ardaloedd Rhondda, Cynon, Castell-nedd ac Afan a ariennir gan brosiect Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.
Os yw eich ysgol yn gymwys a byddai gennych ddiddordeb mewn bwcio gweithdy i'w gyflwyno yn eich ysgol cyn diwedd tymor yr haf 2025, cysylltwch â ni i archebu.
Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae EESW wedi cynnal Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW ers 2012, a sefydlwyd er cof am Dr Tom Parry Jones, ac mae wedi'i noddi gan Ganolfan Ansawdd Cymru a Diwydiant Cymru ers hynny.
Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno cynnig yn dweud pam ddylent fod yn Fyfyriwr y Flwyddyn EESW a sut allan nhw gyfrannu at rôl STEM er budd Cymru yn y dyfodol.
Yn 2021, cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein oherwydd y pandemig, dan arweiniad Lucy Owen, BBC Cymru Wales:
Mae enillwyr diweddaraf Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn EESW i'w gweld yn ein hadran newyddion.
Trowch at ein tudalen Prosiectau EESW am y newyddion diweddaraf am y wobr.