Diwrnod Aer Glân 2022: Cystadleuaeth Ar y Ffordd i Aer Glanach!
Dathlwyd Diwrnod Aer Glân eleni drwy ymweld ag ysgol fuddugol ein cystadleuaeth arwyddion ffyrdd, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae 40 ysgol ledled Cymru wedi cymryd rhan yn ein rhaglen Ar y Ffordd i Aer Glanach a oedd yn ceisio codi ymwybyddiaeth am ansawdd aer. Roedd y gweithgarwch yn cynnwys tair sesiwn ar bwysigrwydd aer yn ein hatmosffer; cerbydau a’u hallyriadau eraill, effaith ar ein hamgylchedd, a chynllunio arwydd ffordd i hysbysu gyrwyr o’r effaith.
Cafodd y prosiect ei gefnogi gyda chyllid gan dîm Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru a bydd cynllun enillydd y gystadleuaeth yn cael ei gomisiynu mewn 5 gwahanol leoliad ledled Cymru lle mae terfyn cyflymder o 50mya i wella ansawdd aer.
Ar 16 Mehefin 2022, cynhaliodd STEM Cymru weithdy i ddisgyblion Blwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd Bedwas, a fynychwyd gan y disgybl buddugol, Miley Fletcher. Dewiswyd cynllun Miley gan Lywodraeth Cymru gan ei fod mor drawiadol ac yn rhoi neges glir, ac mae ei thlws yn fersiwn fach o’i harwydd ffordd a fydd yn cael ei osod yn ei le yn awr. Dewiswyd dau ail orau hefyd, Thomas Lukins, hefyd o Ysgol Uwchradd Bedwas ac Amelie Norbury o Ysgol Babyddol Christ the Word.
Roedd y gweithdy’n cynnwys trafodaeth ar ymwybyddiaeth o’r Diwrnod Aer Glân a chodio robot Spike Prime i gwblhau sawl cenhadaeth sy’n gysylltiedig â ffitrwydd. I gloi, cwblhaodd disgyblion her arloesol i ddangos sut y byddent yn gallu datrys rhai o’r problemau. Cyflwynodd timau syniadau a chynlluniau rhagorol fel annog pobl i fynd allan fwy drwy greu gofodau cymunedol y gallant eu mwynhau, lleihau traffig ar y ffordd drwy ddatblygu apiau ffitrwydd a chreu ceir â thoeau paneli solar hyd yn oed!
Llongyfarchiadau i bob ysgol a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.