Er mwyn cymryd rhan yn ein gweithgareddau, byddwn yn casglu data personol gennych. Rydym yn gwneud hyn at ein dibenion monitro a gwerthuso ein gweithgareddau ein hunain, ond gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer adrodd i’n cyllidwyr amrywiol. Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn cael ei phrosesu gennym fel y gallwn gofnodi eich bod yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau. Ni yw’r Rheolydd Data ar gyfer y wybodaeth hon. Fel y Rheolydd Data, rydym yn gyfrifol am benderfynu sut mae eich data personol yn cael ei brosesu ac at ba ddibenion. Pan fo data’n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaith ymchwil, ni fydd unrhyw ddata a fydd yn datgelu pwy ydych yn cael ei gyhoeddi heb gydsyniad penodol yr unigolyn e.e. astudiaethau achos. Am restr o wybodaeth yr ydym yn ei chasglu am unigolion, lawrlwythwch Hysbysiad Preifatrwydd EESW - Gwybodaeth Bellach.
Os ydych yn cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU (gan gynnwys ein gweithdai Cyflwyniad i Beirianneg a Gweithgynhyrchu), byddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion cyllido. Dylid darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar y cyd â Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-privacy-notice/uk-shared-prosperity-fund-privacy-notice
Wrth gyflawni ein busnes a darparu gwasanaethau i chi efallai y byddwn yn tynnu lluniau a fideos i hyrwyddo ein gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau. Efallai y bydd rhai o'r lluniau / fideos hyn yn cynnwys delweddau ohonoch chi. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio pryd y gellir cymryd delweddau/fideos o'r fath, sut y gellir defnyddio'r delweddau/fideos a'n sail gyfreithlon ar gyfer cymryd a defnyddio'r delweddau.
Pan fyddwn yn bwriadu tynnu lluniau neu ffilmio mewn digwyddiadau cyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod arwyddion priodol yn eu lle i roi gwybod i fynychwyr am hyn. Rydym yn cadw delweddau a fideos o'r bobl yr ydym wedi tynnu lluniau ohonynt a'u recordio. Gall rhai o'r delweddau hyn fod yn ddelweddau agos sy'n golygu y gellir adnabod person yn glir, tra gall eraill fod yn ddelweddau o dorf er enghraifft, wedi'u cymryd o bellter gyda dim ond rhai nodweddion i adnabod person.
Pan fydd angen caniatâd unigolyn arnom i dynnu eu llun/fideo (gweler isod), efallai y byddwn hefyd yn cadw'r manylion canlynol:
Mae seiliau cyfreithlon perthnasol y GDPR ar gyfer casglu eich data personol fel a ganlyn:
Mae’r GDPR yn cydnabod bod rhai mathau o ddata personol yn fwy sensitif, ac yn cael eu dosbarthu fel “data categori arbennig”. Gall EESW gasglu data am iechyd unigolion er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn rhai o’n gweithgareddau, gan gyfeirio’n benodol at gyflyrau meddygol neu alergeddau, ac at ddibenion ymweliadau â chwmnïau neu ar gyfer aros dros nos mewn prifysgolion.
Mae EESW yn casglu a phrosesu’r data hwn er budd gwrthrych y data er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu diogelu, yn enwedig pobl ifanc. Caiff y data hwn ei gasglu gyda chydsyniad penodol gan y rhiant/gwarcheidwad/athro. Am restr o ddata categori arbennig a gasglwyd, gweler Hysbysiad Preifatrwydd EESW - Gwybodaeth Bellach.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi’r ffordd y mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Mae EESW yn rhannu gwybodaeth â thrydydd parti pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol yn unig.
Mae unrhyw drydydd parti’n cynnwys:
Bydd EESW yn defnyddio ymgyrchoedd marchnata ar ffurf negeseuon e-bost i athrawon, ysgolion a chyfranogwyr (i EESW a Headstart Cymru dim ond pan fo cyfranogwyr yn 16 oed neu’n hŷn). Cynhelir gwefan MailChimp y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r unig ddata a gaiff ei lanlwytho gan EESW i MailChimp yw’r enw, yr ysgol/cwmni a’r cyfeiriad e-bost. Mae MailChimp wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r GDPR ac mae wedi hunan-ardystio â chyfundrefnau EU-U.S. Privacy Shield a Swiss-U.S Privacy Shield ac mae’n trosglwyddo data personol yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gyfreithiol i’r UDA yn unol â’n Hardystiad Privacy Shield ni. Os hoffech optio allan ar unrhyw adeg, a fyddech cystal â chlicio ar y ddolen datdanysgrifio ar waelod yr e-bost. Os ydych yn datdanysgrifio fe allem gadw cofnod o’ch gwybodaeth bersonol er mwyn sicrhau nad ydym yn anfon rhagor o ohebiaeth atoch.
At ddibenion gwirio, bydd unrhyw ddata rydych chi'n ei ddarparu i ni yn cael ei gadw yn unol â'n polisi cadw dogfennau a/neu unrhyw gytundebau cytundebol eraill sydd ar waith ar yr adeg y darparwyd y data. Bydd data etifeddol yn cael ei gadw am o leiaf tair blynedd ar ôl diwedd gweithrediadau STEM Cymru a STEM Cymru 2 a gallai fod mor hwyr â 31 Rhagfyr 2026.
Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’ch data personol, fel a ganlyn, fodd bynnag nid yw’r holl hawliau’n berthnasol yn yr holl amgylchiadau.
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at https://ico.org.uk/your-data-matters/
Os oes gennych unrhyw gwestiynau/ymholiadau sy'n ymwneud â'r uchod, neu i wneud cais am Gais Mynediad Pwnc, cysylltwch ag info@stemcymru.org.uk
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â’n harweinydd diogelu data naill ai dros y ffôn neu’n ysgrifenedig:
Rebecca Davies
EESW
Canolfan Waterton
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3WT
Rhif Ffôn: 01656 669381
E-bost: info@stemcymru.org.uk
Byddwch yn derbyn ymateb o fewn yr amser penodedig gofynnol (mis fel arfer).
Mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data fel a ganlyn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif Ffôn: 016 2554 5297
E-bost: wales@ico.org.uk
Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Diwygiwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 20 Rhagfyr 2023. Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd a gallwn ei newid o dro i dro drwy ddiwygio’r dudalen hon i adlewyrchu’r newidiadau i’r gyfraith a/neu arferion preifatrwydd. Byddem yn eich annog i wirio’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd am unrhyw newidiadau.